Mater - cyfarfodydd
Ash Dieback Update
Cyfarfod: 15/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 30)
30 Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Clefyd Coed Ynn PDF 151 KB
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yngl?n â sut aeth Cyngor Sir y Fflint i’r afael â’r clefyd coed ynn yn 2021/22 yn unol â’r Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn, yn ogystal â sôn am y cynnydd yn sgil archwiliad mewnol fis Gorffennaf 2021.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sut yr oedd Cyngor Sir y Fflint wedi mynd i’r afael â Chlefyd Coed Ynn yn 2021/22 yn unol â Chynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019, a’r argymhellion yn dilyn archwiliad mewnol ym mis Gorffennaf 2021.
Rhoddodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Roedd y Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019 yn nodi ac yn cynnig ffyrdd o reoli’r risg a’r costau’n gysylltiedig â Chlefyd Coed Ynn, gan dynnu sylw at lle’r oedd coed heintus wedi cynyddu risg i ddiogelwch y cyhoedd a’r gost ariannol i’r Cyngor. Er mwyn cymedroli a rheoli’r risg yn gysylltiedig â chlefyd coed ynn, cynhaliwyd cyfres o arolygon i asesu dosbarthiad ac i ddosbarthu’r clefyd ar goed ynn ar ochr ffyrdd sy’n flaenoriaeth a ffyrdd eilaidd. Cynhelir rhaglen torri coed ar goed mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen arnynt, ac mae tirfeddianwyr â choed heintus wedi cael eu hysbysu er mwyn tynnu sylw at glefyd coed ynn yn eu coed, gyda’r disgwyliad y byddant yn rheoli eu coed eu hunain i liniaru’r risgiau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y gwaith ar adfer i ailblannu’r coed a gollwyd oherwydd y clefyd, a gofynnodd a fyddai pob ardal yn destun arolwg safle ei hun. Soniodd y Cynghorydd Peers am yr effaith ar dirweddau hefyd. Cydnabu’r Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Peers ac eglurodd bod adfer yn rhan bwysig o’r Cynllun Clefyd Coed Ynn a dywedodd y byddai ardaloedd yn cael eu hystyried fesul achos gan na fyddai pob ardal yn gwarantu plannu coed ychwanegol am resymau amrywiol. Dywedodd fod y prif ffocws ar liniaru risg.
Ymatebodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol i’r pryderon a’r cwestiynau pellach a godwyd gan Aelodau mewn perthynas ag amserlenni, ailblannu, effaith ar fioamrywiaeth, y gost i’r Cyngor am ddelio gyda Chlefyd Coed Ynni, a thynnu / cael gwared ar goed sydd wedi’u heintio.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Mike Peers a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
Bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei nodi a bod y gwaith parhaus yn gysylltiedig â
Chlefyd Coed Ynn yn cael ei gefnogi.