Mater - cyfarfodydd

Application to Vary a Premises Licence

Cyfarfod: 29/06/2022 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 2)

2 CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        I aelodau ystyried a phenderfynu yngl?n â chais am amrywiad i drwydded eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 i amrywio trwydded eiddo ym mwyty Bengal Dynasty, 104 Chester Road East yn Shotton.  Roedd y cais fel a ganlyn:

 

·         Ymestyn oriau gwerthu alcohol ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul ar gyfer digwyddiadau wedi’u harchebu ymlaen llaw, o 10.00am tan 2.00am

·         Ymestyn oriau ar gyfer: Cerddoriaeth wedi'i recordio o 23.00pm tan 2.15am; lluniaeth hwyr y nos o 23.00pm tan 2.15am ac amseroedd cau o 12.30am tan 2.30am

·         Ymgeisio am gerddoriaeth fyw rhwng 23.00pm tan 2.15am ac un awr ychwanegol ar Noswyl Nadolig, G?yl San Steffan, Dydd Calan, Dydd Gwener y Groglith a Dydd Sul y Pasg

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cadarnhad ysgrifenedig nad oedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac adain Rheoli Llygredd y Cyngor wedi gwneud unrhyw sylwadau am y cais yma.   Roedd llythyr yn cadarnhau nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru wrthwynebiad ar yr amod bod teledu cylch cyfyng wedi’i gynnwys yn y drwydded.   Roedd llythyrau o wrthwynebiad gan bedwar preswylydd lleol wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu bod proses o gyfryngu wedi cael ei gynnal rhwng y gwrthwynebwyr a’r Ymgeisydd ond bod y mater yn parhau heb ei ddatrys.   Roedd y preswylwyr oedd yn gwrthwynebu i’r cais wedi cael gwahoddiad i ymuno â’r cyfarfod ond roeddynt wedi ymddiheuro.

 

Wrth roi cefndir am y cais, fe soniodd June Clarke am effaith y pandemig ar gynllun busnes yr Ymgeisydd ar gyfer y bwyty.   Ar ôl cael trwydded safle ym mis Rhagfyr 2021 ac o ystyried yr ansicrwydd gyda’r pandemig ar y pryd, fe oedodd cyn agor y bwyty ac yn hytrach, cynhaliodd ddigwyddiadau preifat i greu rhywfaint o incwm.  Gan fod y rhain wedi bod yn llwyddiannus roedd wedi ymgeisio am amrywiad yn y drwydded i barhau â digwyddiadau o’r fath oedd wedi’u harchebu ymlaen llaw.   Wrth i’r cyfyngiadau cenedlaethol lacio, roedd wedi trefnu i ailagor y safle fel caffi yn ystod y dydd a bar/gril min nos.

 

Cafodd y panel wybod bod yr Ymgeisydd  wedi ystyried pryderon preswylwyr, oedd yn bennaf yn ymwneud â s?n yn ystod y nos.   Rhoddodd June Clarke drosolwg o’i chasgliadau o asesiad risg s?n a gynhaliwyd yn ystod digwyddiad preifat a gynhaliwyd yn y safle ym mis Ebrill. Roedd yn atodiad i’r adroddiad.   Roedd wedi sylwi ar s?n lefel isel mewn lleoliadau gerllaw. Roedd hi’n teimlo eu bod wedi cael eu lliniaru gan elfennau gwrthsain ger y drws tân cefn yn y safle  a byddai’n cael ei wella gan gynlluniau osod portsh newydd yn y blaen.  Fe soniodd hefyd am bryderon gan breswylwyr am argaeledd gofodau parcio a dywedodd y byddai amhariad hwyr y nos yn cael ei leihau gan yr Ymgeisydd a staff yn monitro cwsmeriaid yn gadael y safle yn ystod y nos, mae’n ymddangos bod y mwyafrif ohonynt yn gadael mewn car/tacsi.

 

Dywedodd June Clark er gwaethaf ymgais gan yr Ymgeisydd i ymgysylltu â’r preswylwyr i drafod eu pryderon mewn  mwy o fanylder i  ...  view the full Cofnodion text for item 2