Mater - cyfarfodydd
Prudential Indicators - Actuals 2021/22
Cyfarfod: 12/07/2022 - Cabinet (eitem 12)
12 Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2021/22 PDF 264 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2021/22 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem ac eglurodd bod yn rhaid i'r Cyngor, o dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), fel y’i diweddarwyd yn 2017, bennu amrediad o Ddangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a osodwyd ar gyfer:
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Doethineb Ariannol
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol mai bwriad y fframwaith a sefydlwyd gan y Cod Darbodus oedd cefnogi cynllunio strategol lleol, cynllunio rheoli asedau lleol a threfn gadarn o werthuso dewisiadau. Amcanion y Cod oedd sicrhau, o fewn fframwaith clir, bod cynlluniau buddsoddi cyfalaf awdurdodau lleol yn fforddiadwy, darbodus a chynaliadwy a bod penderfyniadau rheoli’r trysorlys yn cael eu gwneud yn unol ag arferion proffesiynol da.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r adroddiad.