Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2021/22 End of Year Performance Report
Cyfarfod: 12/07/2022 - Cabinet (eitem 5)
5 Adroddiad perfformiad diwedd blwyddyn cynllun y Cyngor PDF 123 KB
Pwrpas: Adolygu alldro cynnydd blynyddol Cynllun y Cyngor yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Plan 2021/22 End of Year Performance Report, eitem 5 PDF 2 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad perfformiad diwedd blwyddyn cynllun y Cyngor
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem oedd yn cyflwyno sefyllfa derfynol flynyddol y cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2021/22. Bu’n flwyddyn anodd i staff a diolchodd i bawb am eu hymdrechion yn ystod y cyfnodau anodd, yn cynnwys eu hyblygrwydd.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2021/22 yn dangos bod 73% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da, a bod 74% yn debygol o gyflawni’r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 73% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro'n agos ac roedd 18% ddim yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.
Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd.
Ategodd y Cynghorwyr Mullin a Healey eu diolch i’r holl staff am y gwaith a wnaed.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo a chefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawniadau’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor 2021/22;
(b) Cymeradwyo a chefnogi’r perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2021/22; a
(c) Bod y Cabinet yn cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.