Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring Report 2021/22 (Outturn)

Cyfarfod: 12/07/2022 - Cabinet (eitem 10)

10 Monitro'r Gyllideb Refeniw 2021/22 (Canlyniadau) pdf icon PDF 183 KB

Pwrpas:        Cyflwyno gwybodaeth fonitro canlyniad y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem oedd yn rhoi sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Roedd y Cyfrifon ar gyfer 2021/22 wedi cael eu cau ac roedd y Cyngor ar y trywydd iawn i gyflwyno’r Datganiad Cyfrifon ffurfiol a nodiadau cefnogol i Archwilio Cymru o fewn y fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod y pandemig COVID-19 wedi parhau i achosi heriau i’r Cyngor a bod yr effaith ariannol dros y 12 mis diwethaf yn sylweddol. Roedd y sefyllfa derfynol yn adlewyrchu cyllid grant ychwanegol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd wedi cyfrannu’n sylweddol at lefel y gwarged gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys cyllid Gofal Cymdeithasol ychwanegol ar gyfer pwysau’r gaeaf o £2.167 miliwn ynghyd â chyllid grant ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Plant gan Lywodraeth Cymru o £0.292 miliwn.

 

Y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Gwarged gweithredol o (£5.711 miliwn) a oedd yn symudiad ffafriol o (£1.107 miliwn) o’r ffigwr gwarged o (£4.604 miliwn) a adroddwyd ym Mis 10

·         Gwarged gweithredol o (£5.711 miliwn) oedd gyfwerth a 1.9% o’r Gyllideb Gymeradwy, a oedd yn uwch na DPA y SATC o amrywiad yn erbyn y gyllideb o 0.5%

·         Balans y gronfa wrth gefn at raid a ragwelwyd o £7.098 miliwn ar 31 Mawrth 2022

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Gwariant refeniw net £1.404 miliwn yn uwch na’r gyllideb

·         Balans terfynol o £3.616 miliwn ar 31 Mawrth 2022

 

Eglurodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig nodi fod mwyafrif y symudiadau positif yn darparu budd unwaith yn unig ac na fyddent yn berthnasol i’r broses gosod cyllideb ar gyfer 2022/23.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2022;

 

(b)       Nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

(c)        Chymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.