Mater - cyfarfodydd
Update on the Recruitment of a Town and Community Council Representative
Cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Safonau (eitem 22)
22 Diweddariad ar Recriwtio Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned PDF 81 KB
Rhoi gwybod am gynnydd ar recriwtio Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned newydd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Update on the Recruitment of a Town and Community Council Representative, eitem 22 PDF 70 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad ar Recriwtio Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i roi gwybod am gynnydd wrth recriwtio cynrychiolydd newydd i Gynghorau Tref a Chymuned. Roedd angen i’r Pwyllgor Safonau gynnwys cynrychiolydd i Gynghorau Tref a Chymuned. Roedd yn rhaid i’r cynrychiolydd fod yn Gynghorydd a oedd yn gwasanaethu ar Gyngor Tref neu Gymuned, ond ni allai fod yn Gynghorydd Sir hefyd. Gofynnwyd i Gynghorau Tref a Chymuned enwebu ymgeiswyr posib’. Roedd cyfanswm o 6 ymgeisydd ac roedd pob un wedi darparu ysgrif-bortread a oedd wedi cael ei anfon at yr holl Gynghorau. Gofynnwyd i’r Cynghorau enwebu eu dewis cyntaf a’u hail ddewis fel cynrychiolydd. Yr ymgeisydd oedd â’r nifer uchaf o bleidleisiau fyddai’n cael ei ddewis. Pe bai’n gyfartal, byddai’r ymgeisydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau fel dewis cyntaf yn cael ei ddewis. Byddai’r penodiad ffurfiol yn cael ei wneud gan y Cyngor llawn ar 18 Hydref 2022.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan Mark Morgan ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Teresa Carberry.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r broses i benodi cynrychiolydd i’r Cynghorau Tref a Chymuned.