Mater - cyfarfodydd

Funding, Flight-Path and Risk Management Framework

Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 11)

11 Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 108 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd Mr Middleman bod yr adroddiad hwn yn edrych ar iechyd ariannol y Gronfa a sut oedd y risgiau’n cael eu rheoli. Ychwanegodd y pwyntiau allweddol canlynol er budd yr aelodau newydd a oedd yn llai cyfarwydd â’r amcanion a gweithrediad:

-       Mae’r Gronfa yn cael ei hamddiffyn rhag cwympiadau ecwiti a nifer o risgiau allweddol eraill. Bwriad y strategaeth llwybr hedfan yw amddiffyn y Gronfa ar yr amser cywir trwy sicrhau risgiau penodol ond nid ar unrhyw gost, felly mae angen cael cydbwysedd rhwng pa mor bell yr ydych yn mynd a faint ydych yn barod i’w dalu am amddiffyniad.

-       Roedd y fframwaith wedi’i lunio hefyd i weithio mor effeithlon ag sy’n bosibl.

-       Pwysleisiodd Mr Middleman lwyddiant arwyddocaol y fframwaith a’r ffaith ei fod wedi gostwng diffygion o sawl can miliwn o bunnau ers y dechrau, er gwaethaf nifer o heriau trwy gydol yr amser.

-       Y risgiau allweddol eraill oedd chwyddiant a chyfraddau llog oherwydd bod rhwymedigaethau’r Gronfa yn uniongyrchol gysylltiedig â chwyddiant. Gan hynny, oherwydd y cynnydd mewn cyfraddau chwyddiant, roedd yn hanfodol deillio strategaeth sy’n darparu enillion buddsoddi (a oedd yn rhannol yn gysylltiedig â chyfraddau llog) i wrthbwyso’r cynnydd mewn rhwymedigaethau.  Fel arall, byddai’r cyfraniadau yn cynyddu a byddai’n rhaid i’r cyflogwyr ariannu hynny.

-       Roedd y fframwaith hefyd yn rheoli’r risg arian parod a’r risgiau hylifedd a deunydd cyfochrog. O ran agweddau gweithredol, dywedodd Mr Middleman bod angen i’r Gronfa sicrhau bod unrhyw arian sy’n cael ei ddal i amddiffyn yn erbyn y risgiau hyn, yn darparu’r enillion buddsoddi priodol.

-       Fel rhan o’r gwaith o lywodraethu'r fframwaith, mae’r Gr?p Cyllido a Rheoli Risg (“FRMG”) yn cynnwys swyddogion ac ymgynghorwyr sy’n rheoli’r gwaith o ddarparu’r fframwaith o ddydd i ddydd, a dod â phenderfyniadau yn ôl i’r Pwyllgor i sicrhau bod y fframwaith yn gweithio’n gywir.

-       Roedd paragraff 1.02 yn dangos cynnydd y Gronfa ers prisiad actiwaraidd 2019. Byddai’r fersiwn a ddiweddarwyd i ganiatáu ar gyfer canlyniadau prisiad 2022 yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor yn ddiweddarach eleni.

-       Ar 31 Mawrth 2022, amcangyfrifwyd y byddai’r Gronfa yn cael ei hariannu 101% ac felly byddai ychydig dros ben ac 8% yn uwch na’r hyn a ddisgwylid yn y prisiad diwethaf. Fodd bynnag, roedd Mr Middleman yn credu y byddai’r Gronfa wedi gweld gwaethygiad ers hynny o ystyried y gyfradd chwyddiant uchel ac felly rhwymedigaethau uwch. Pwysleisiodd mai’r mater hollbwysig ym mhrisiad 2022 ac adolygiad y strategaeth gyllido yw lefel chwyddiant a’i ddyfalwch yn y dyfodol.

-       Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.03, y gymhareb sicrhau cyfradd chwyddiant oedd 40% a’r gymhareb sicrhau cyfradd llog oedd 20%, sy’n golygu bod y Gronfa’n cael ei hamddiffyn yn rhannol yn erbyn rhai o’r risgiau. Roedd y Gronfa mewn sefyllfa gref o’i chymharu â Chronfeydd eraill ac roedd ganddi lefelau amddiffyniad priodol mewn lle.  Roedd y lefelau hynny o sicrhad o ganlyniad i’r gost o’u cynyddu ond mae’n bosibl y gellid codi’r amddiffyniad wrth i gyfraddau llog godi .

-       Mae paragraff 1.05 yn  ...  view the full Cofnodion text for item 11