Mater - cyfarfodydd
Investment and Funding Update
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 9)
9 Diweddariad ar fuddsoddi ac ariannu PDF 157 KB
Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Investment and Funding Update, eitem 9 PDF 99 KB
- Enc. 2 for Investment and Funding Update, eitem 9 PDF 122 KB
- Enc. 3 for Investment and Funding Update, eitem 9 PDF 115 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad ar fuddsoddi ac ariannu
Cofnodion:
Nododd Mr Latham y pwyntiau allweddol canlynol:
- Fel yr adlewyrchir ym mharagraff 1.02, cytunodd y Gronfa ar ymrwymiad o £12 miliwn i fuddsoddi mewn ardaloedd lleol gan gynnwys Gogledd-ddwyrain Cymru. Hwn oedd y buddsoddiad cyntaf yn ardal Cyngor Sir y Fflint.
- Rhoddwyd crynodeb o broses allweddol prisiad actiwaraidd 2022 i’r Pwyllgor ym mharagraff 1.03. Byddai Datganiad y Strategaeth Gyllido (DSG) yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod Pwyllgor mis Tachwedd a phwysleisiodd Mr Latham bod hwn yn allweddol i’r prisiad a bod angen i’r Gronfa ymgynghori â’r cyflogwyr am y DSG.
- Wrth adolygu’r DSG, byddai ystyriaethau’n cael eu gwneud am feysydd megis ffyniant bro, buddsoddi cyfrifol a newid hinsawdd.
- Roedd y cyfrifoldebau dirprwyedig ym mharagraff 1.08 yn cynnwys monitro llif arian a phenderfyniadau am ddyrannu asedau tactegol mwy byrdymor.
PENDERFYNWYD:
Nododd y Pwyllgor y diweddariad.