Mater - cyfarfodydd

Pension Administration/Communication Update

Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 8)

8 Diweddariad gweinyddu pensiwn/ cyfathrebu pdf icon PDF 134 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd Mrs Williams y byddai’r rhan fwyaf o’r manylion yn y diweddariad hwn yn cael eu hesbonio ymhellach yn yr hyfforddiant sefydlu ar gyfer aelodau newydd y Pwyllgor. Amlygodd Mrs Williams y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Roedd y tîm ar y trywydd iawn o ran y cynllun busnes fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.

-       Mewn perthynas â’r datblygiadau presennol ym mharagraff 1.02, roedd cynnydd wedi’i wneud ar y rhaglen McCloud (fel y gwelir yn atodiad 2). Esboniodd fod McCloud yn achos gwahaniaethu ar sail oedran, a oedd wedi arwain at fod angen ail-gyfrifo rhai buddion hanesyddol a newid prosesau wrth fynd ymlaen, ond er mwyn gwneud hynny roedd angen casglu mwy o ddata am aelodau’r cynllun gan gyflogwyr. Oherwydd bod cymaint o waith ynghlwm wrth hyn, mae’r Gronfa wedi creu tîm prosiect McCloud pwrpasol. Ar hyn o bryd mae’r tîm hwn yn canolbwyntio ar gywiro cofnodion unrhyw aelodau a effeithiwyd unwaith y byddant wedi derbyn data gan gyflogwyr.

-       Roedd y Gronfa yn gwneud cynnydd gan gyflawni terfynau amser prisio actiwaraidd ac fel y soniwyd uchod, roedd y tîm yn y broses o lanhau data a’i ddarparu i Mercer.

-       Fel y soniwyd ym mharagraff 1.03, oherwydd bod y dyfarniad tâl ar gyfer Ebrill 2021 wedi’i ddyfarnu ym mis Mawrth 2022, roedd y tîm wedi ail-gyfrifo buddion aelodau a ddyfarnwyd dros y 12 mis diwethaf. Roedd hyn wedi arwain at lawer iawn o waith ac roedd y sefyllfa hon yn debygol o gael ei hailadrodd pan fyddai’r dyfarniad tâl 2022/23 yn cael ei gadarnhau.

-       Bob blwyddyn mae pensiynau a delir yn cynyddu felly mae gofyn i’r tîm gymhwyso’r cynnydd hwn mewn pryd ar gyfer taliad pensiwn mis Ebrill a rhoi gwybod i bob pensiynwr am y cynnydd. Roedd hwn yn ddarn o waith sylweddol arall i’r tîm.

-       Mae’r aelodau’n cael eu cofrestru i’r cynllun fel mater o drefn neu gallant gofrestru ar y cynllun ar sail 50/50, sy’n opsiwn mwy fforddiadwy i aelodau yn hytrach nag optio allan yn gyfan gwbl. Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer yr aelodau sy’n optio allan o’r cynllun, a gallai hynny fod oherwydd pwysau economaidd, felly ychwanegodd y tîm fanylion pellach yngl?n â’r cynllun 50/50 ar y ffurflen optio allan. Bydd y tîm yn monitro’r niferoedd optio allan wrth fynd ymlaen i ystyried beth arall y gellir ei wneud.

 

Esboniodd Mrs Williams bod y cynllun 50/50 yn caniatáu i aelodau’r cynllun dalu hanner y gyfradd gyfrannu ac am hynny byddent yn cael hanner eu buddion ar gyfer y cyfnod hwnnw, ond nid yw’r gwarant marwolaeth a salwch yn cael ei effeithio. Roedd y cynllun 50/50 yn darparu opsiwn mwy fforddiadwy i aelodau felly roedd yn bwysig tynnu sylw’r aelodau sy’n ystyried optio allan o’r prif gynllun at yr opsiwn hwnnw.

Dywedodd y Cynghorydd Rutherford ei fod yn credu nad yw aelodau o bosibl yn deall gwerth y cynllun pensiwn a bod yn rhan ohono.  Roedd yn meddwl tybed a oedd modd cylchredeg rhyw fath o ohebiaeth syml yn tynnu  ...  view the full Cofnodion text for item 8