Mater - cyfarfodydd

Asset Pooling and WPP Business Plan 2022 - 2025

Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 6)

6 Cyfuno Asedau a Chynllun Busnes Partneriaeth Bensiwn Cymru 2022 - 2025 pdf icon PDF 107 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar Gyfuno Asedau a Chynllun Busnes Partneriaeth Bensiwn Cymru 2022/23 - 2024/25 er mwyn eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er budd yr aelodau newydd, esboniodd Mr Latham bod y Gronfa yn y gorffennol wedi gosod y strategaeth fuddsoddi; penderfynu faint oedd yn cael ei ddyrannu ym mhob dosbarth asedau a dewis nifer o reolwyr buddsoddi i ddarparu’r strategaeth.  Ar wahân i rai asedau etifeddol, nid yw’r Gronfa bellach yn dewis y rheolwyr cronfa eu hunain gan fod Partneriaeth Pensiynau Cymru (“PPC”) yn dewis rheolwyr. 

Cadarnhaodd Mr Latham bod y CBLl wedi penodi cynrychiolydd newydd ar gyfer aelodau’r cynllun fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.

Amlygodd hefyd ym mharagraff 1.01 bod Dye & Durham yn prynu Link Group.  Mae Link Fund Solutions yn darparu isadeiledd cefn swyddfa i PPC ar gyfer cronfeydd buddsoddi cyfun y mae cronfeydd sy’n bartneriaid i PPC yn buddsoddi ynddynt. Nododd Mr Latham ei bod yn aneglur ar hyn o bryd beth fyddai’n digwydd gyda Link Fund Solutions, ond roedd y CBLl a PPC yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater.

Dywedodd Mr Hibbert bod buddsoddwyr preifat yn Woodford (a argymhellwyd gan Link Group) yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Link Group a gofynnodd a oedd hynny’n debygol o gael effaith ar wasanaethau’r Gronfa i PPC. Dywedodd Mr Latham bod PPC wedi cadarnhau na fyddai hynny’n wir, ond roedd Mr Latham yn cydnabod bod rhai risgiau, o ystyried nad yw’r Gronfa yn gwybod beth yw’r canlyniad na pha gamau y byddai’r FCA yn eu cymryd. Pwysleisiodd Mr Latham bod ymgynghorwyr PPC, Hymans Robertson, wedi eu sicrhau y byddai’r FCA yn ymyrryd pe bai rhywbeth yn digwydd i Link o ganlyniad i Woodford.

            Roedd gweithgor swyddogion PPC wedi sefydlu nifer o is-grwpiau er enghraifft, roedd Mr Latham yn rhan o’r is-gr?p rheoli risg ac roedd Mrs Fielder yn rhan o’r ddau gr?p arall ar gyfer marchnadoedd preifat a buddsoddi cyfrifol (“BC”). Roedd y ddau faes yma yn rhai cymhleth a phwysig i’r Gronfa o ystyried bod oddeutu 27% o asedau’r Gronfa mewn marchnadoedd preifat, ac yn y pen draw byddai unrhyw ymrwymiadau newydd yn y dosbarth asedau hwn yn cael eu gwneud i is-gronfeydd marchnadoedd preifat PPC.

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan y grwpiau hyn, yn enwedig yr is-gr?p marchnadoedd preifat, o ystyried y penodiadau a wnaethpwyd mewn credyd preifat ac isadeiledd. O’r flwyddyn nesaf ymlaen, ar ôl i’r is-gronfeydd gael eu sefydlu, bydd buddsoddiadau’r farchnad breifat yn digwydd trwy PPC, a bydd y dyranwyr sylfaenol amrywiol yn pennu sut y caiff buddsoddiadau eu trefnu.

            Hefyd, mae llawer iawn o waith wedi’i gwblhau mewn perthynas â’r is-gr?p buddsoddi cyfrifol fel yr amlinellir ym mharagraff 1.03 yr adroddiad. Fel yr adroddwyd yn y Pwyllgor diwethaf, llwyddodd PPC i ddod yn aelod o’r Cod Stiwardiaeth. Amlygodd y Cyngor Adrodd Ariannol (“FRC”) feysydd a awgrymir i’w gwella ar gyfer PPC. O ganlyniad, cafodd cynllun gweithredu ei greu yn barod ar gyfer y cyflwyniad y flwyddyn nesaf.

            Roedd y Gronfa wedi gofyn yn y gorffennol i PPC sefydlu is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy Byd-eang Gweithredol i helpu’r Gronfa  ...  view the full Cofnodion text for item 6