Mater - cyfarfodydd
Audit Wales Audit Plan 2022
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 4)
4 Cynllun Archwilio 2022 Archwilio Cymru PDF 80 KB
Rhoi cynllun Archwilio Cymru 2021/22 i Aelodau’r Pwyllgor er mwyn ei nodi a gwneud sylwadau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Audit Wales Audit Plan 2022, eitem 4 PDF 265 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Archwilio 2022 Archwilio Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cadeirydd Mrs Phoenix o Archwilio Cymru a gwahoddodd hi i gyflwyno’r eitem hon. Cyfeiriodd Mrs Phoenix y Pwyllgor at Atodiad 1 a nododd bod y cynllun archwilio’n crynhoi’r risgiau a nodwyd, y ffi, yr amseriad a’r tîm archwilio. Roedd y meysydd allweddol mewn perthynas â’r risgiau a nodwyd ar dudalen 21 yn cynnwys risg benodol yn ymwneud â phortffolio a daliadau amrywiol y Gronfa (gweler amlinelliad yn y tabl ar waelod tudalen 21). Soniwyd am y cynllun i roi’r gorau i fuddsoddiadau Rwsiaidd yn y risgiau a nodwyd ar dudalen 22. Roedd PPC yn y broses o roi’r gorau i fuddsoddiadau Rwsiaidd a dywedodd Mrs Phoenix nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ddiweddariad ynghylch hyn. Er gwaethaf hynny, cadarnhaodd nad oedd gwerth y daliad hwn yn un hanfodol i’r Gronfa.
Hefyd, gan fod Mr Vaughan (Prif Gyfrifydd) wedi gadael y Gronfa, cyfeiriwyd at hyn fel risg a nodwyd. Ond cadarnhaodd Mrs Phoenix nad oedd unrhyw bryderon a dim ond er mwyn tynnu sylw’r Pwyllgor at y mater y cafodd ei grybwyll.
Esboniodd Mrs Phoenix bod y ffi archwilio wedi codi eleni. Roedd cynnydd yn ffioedd pob Cronfa oherwydd bod mwy o waith ac oherwydd bod aelodau o’r tîm sydd ar raddau cyflog uwch yn gysylltiedig oherwydd y safonau archwilio.
Dywedodd nad oedd y cynllun archwilio wedi newid ers y blynyddoedd cynt ac y byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ddiwedd mis Tachwedd er mwyn medru cyflawni’r dyddiad cau statudol sef 30 Tachwedd 2022.
PENDERFYNWYD:
Nododd y Pwyllgor y diweddariad.