Mater - cyfarfodydd

Welsh Language Annual Monitoring Report 2021/22

Cyfarfod: 14/06/2022 - Cabinet (eitem 5)

5 Adroddiad Blynyddol Monitro'r Gymraeg 2021/22 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2021/22 a darparu trosolwg o’r broses o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod angen i Gyngor Sir y Fflint lynu at Safonau’r Gymraeg, fel y nodir yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyflwynwyd i’r Cyngor yn 2015.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi safonau ar gyfer y Gymraeg.  Nod y Safonau yw:

·         Gwella'r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yn y Gymraeg;

·         Cynyddu'r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg;

·         Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran yr iaith Gymraeg; a

·         Sicrhau bod lefel priodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.

 

Crybwyllodd y buddsoddiad o dros £1miliwn i Ysgol Croes Atti yng Nglannau Dyfrdwy, i wella’r ddarpariaeth o addysg Cymraeg yn ardal Shotton a’r ysgol cyfrwng Cymraeg arfaethedig newydd a fyddai’n disodli Ysgol Croes Atti presennol yn y Fflint.  Hon fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf i gael ei hadeiladu gan y Cyngor, ers iddo gael ei sefydlu ym 1996.  Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cyllid ar gael i hwyluso twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a defnydd o’r Gymraeg ac roedd y Cyngor wedi mynegi diddordeb mewn ymgeisio am gyllid ar gyfer ardal Bwcle/Mynydd Isa.

 

Gwnaeth y Swyddog Datblygu Polisi sylwadau ar lwyddiant y fenter Cymraeg Bob Cynllun a Dydd Mercher Cymraeg.  Eglurodd fod gweithwyr yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg drwy hyfforddiant a ddarperir gan y coleg lleol.  Roedd adnoddau i gefnogi dysgwyr Cymraeg a siaradwyr Cymraeg ar gael ar y fewnrwyd ar dudalen ddynodedig ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

 

Yn 2021/22 derbyniwyd un gwyn yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg, o’i gymharu â thair cwyn yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd manylion y g?yn wedi’i amlinellu yn yr adroddiad.

Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bwysigrwydd y gwaith a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid ar y wybodaeth yr oeddent yn ei ddarparu ar y cyfleoedd ar gael i bobl ifanc os oeddent yn ddwyieithog. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Swyddog Datblygu Polisi a’i thîm am eu gwaith i hyrwyddo’r Gymraeg a’u gwaith ar yr adroddiad blynyddol.  Anogodd yr aelodau a swyddogion i ddefnyddio’r Gymraeg lle bynnag bosibl. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylwadau ar weithrediad Ysgol Glanrafon yn yr Wyddgrug o ran gwaith ailfodelu ac estyniad, a fyddai’n cynnwys datblygu darpariaeth cyn ysgol pwrpasol ar y safle.  Bydd estyniad ar y safle yn galluogi i gapasiti’r ysgol gynyddu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, dywedodd y Swyddog Datblygu Polisi y byddai rhestr o frawddegau a ddefnyddir yn aml mewn cyfarfodydd yn gallu cael ei llunio a’i anfon i Aelodau.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2021/22, gan nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant; a

 

(b)       Bod adroddiad arall yn cael ei dderbyn ym Medi 2022 yn amlinellu’r cynnydd a wneir.