Mater - cyfarfodydd

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd 2021/2022

Cyfarfod: 23/02/2023 - Cabinet (eitem 128)

128 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd 2021/2022 pdf icon PDF 193 KB

Pwrpas:        Adroddiad ar gynnydd perfformiad y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi parhau i weithredu gwasanaeth caffael ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych, a nhw yw’r awdurdod arweiniol.

 

Yn rhan o’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth, lluniodd y gwasanaeth caffael ar y cyd adroddiad blynyddol ar y cyd am ei weithgareddau caffael a reoleiddir.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet i’w ddefnyddio er mwyn darparu diweddariad blynyddol am berfformiad caffael ar gyfer 2021/22.

 

Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad i’r Cabinet hefyd am ‘FastTrack’, menter a lansiwyd yn 2021/22, oedd yn rhoi’r dewis i gyflenwyr i gael eu talu cyn gynted â bod eu hanfoneb yn cael eu hawdurdodi a chyn eu telerau talu, yn gyfnewid am ad-daliad bychan a gytunwyd arno’n barod.  Cafodd yr ad-daliad ei weithredu wrth i’r anfoneb gael ei thalu ac roedd yn cyfateb i sawl diwrnod y cafodd y taliad ei gyflymu.   Roedd y fenter Free Pay hefyd yn darparu taliadau cyflym i fusnesau a chyflenwyr am ddim.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod yna ganran gynyddol o gontractau yn cynnwys manteision cymunedol a oedd yn beth da, ac yn darparu model da ar gyfer cydweithio mewnol a fyddai ei angen mewn cysylltiad â lleihau carbon.   Pwysleisiodd bwysigrwydd Free Pay a FastTrack ar gyfer busnesau lleol bychan.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Adroddiad Blynyddol Caffael ar gyfer 2021/22 yn cael ei gymeradwyo; a

 

(b)       Bod cynnydd gyda’r mentrau FastTrack a Free Pay yn cael ei nodi.