Mater - cyfarfodydd
North Wales Market Stability Report
Cyfarfod: 28/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 15)
15 ADRODDIAD AR SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD GOGLEDD CYMRU PDF 141 KB
Pwrpas: |
Adolygu fersiwn ddrafft Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer y rhanbarth a’r blaenoriaethau yn yr adroddiad. |
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for North Wales Market Stability Report, eitem 15 PDF 2 MB
- Enc. 2 for North Wales Market Stability Report, eitem 15 PDF 985 KB
- Enc. 3 for North Wales Market Stability Report, eitem 15 PDF 82 KB
- Enc. 4 for North Wales Market Stability Report, eitem 15 PDF 238 KB
- Gweddarllediad ar gyfer ADRODDIAD AR SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD GOGLEDD CYMRU
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun.
Tynnodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu sylw at y wybodaeth a ddarparwyd yn adrannau 1.05 ac 1.06 yr adroddiad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am adroddiad manwl a llawn gwybodaeth a dywedodd ei fod o safon uchel iawn a gofynnodd i ddiolchiadau’r Pwyllgor gael eu trosglwyddo i Emma Murphy, Dawn Holt a Marianne Lewis a oedd wedi cyd-gynhyrchu’r adroddiad.
Soniodd y Cadeirydd am y nifer uchel o leoliadau y tu allan i'r sir yn Sir y Fflint fel y cyfeiriwyd ato ar dudalen 232 yr adroddiad. Soniodd y Prif Swyddog am faint y boblogaeth yn Sir y Fflint a'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i fod yn sir ar y ffin. Cyfeiriodd hefyd at yr heriau a allai godi oherwydd diwylliannau ac ymddygiadau. Rhoddodd sicrwydd nad oedd cyfanswm y Plant sy’n Derbyn Gofal mor uchel ag awdurdodau eraill yng Nghymru oherwydd y gwasanaethau ataliol da sydd ar waith yn Sir y Fflint.
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw ar y pwysau ariannol a wynebir gan rai darparwyr cartrefi gofal yn Sir y Fflint.
Cynigiodd y Cynghorydd David Mackie yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru 2022.