Mater - cyfarfodydd
Flintshire County Council Elections 5th May 2022
Cyfarfod: 24/05/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 9)
9 Etholiadau Cyngor Sir y Fflint Dydd Iau 5 Mai 2022 PDF 80 KB
Pwrpas: I adrodd i’r Cyngor Sir ar gynnal a chanlyniadau etholiadau Cyngor Sir 2022.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Flintshire County Council Elections 5th May 2022, eitem 9 PDF 80 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Etholiadau Cyngor Sir y Fflint Dydd Iau 5 Mai 2022
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad am ganlyniadau etholiadau’r Cyngor Sir yn 2022. Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr etholiadau lleol wedi eu cynnal yn unol â chyfraith etholiadau, canllawiau, arferion cyffredin a’r safonau perfformiad sydd wedi eu gosod ar gyfer Swyddogion Canlyniadau. Nododd yr adroddiad gyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor ar gyfer y tymor newydd.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod proses yr etholiadau lleol wedi bod o safon uchel a bod uniondeb wedi ei gynnal. Mynegodd ei werthfawrogiad o ymroddiad a phroffesiynoldeb timau Etholiadau a Rheoli’r Cyfrif, a chydweithrediad pawb a fu’n rhan o’r broses etholiadol, gan gynnwys llawer o sefydliadau lleol a ddarparodd eu heiddo i fod yn orsafoedd pleidleisio, a Choleg Cambria am ddarparu lle ar gyfer Canolfan Gyfrif. Diolchodd y Prif Weithredwr hefyd am gydweithrediad yr ymgeiswyr, asiantwyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr am ddilyn y cyngor ac arweiniad a roddwyd drwy gydol y cyfnod cyn yr etholiad.
Hysbysodd y Prif Weithredwr ei fod, ar y cyd â’r Tîm Etholiadau, wedi gwerthuso perfformiad a dysg o’r etholiadau er mwyn eu rhannu â’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer ei adroddiad gwerthuso cenedlaethol, ac ar gyfer cynllunio etholiadau yn y dyfodol. Tynnodd sylw ar y defnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnod yr etholiad, a, chan gyfeirio at ganllawiau cyfredol y Comisiwn Etholiadol yngl?n â’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y byddai’r angen am fwy o eglurhad yn cael ei godi mewn adborth ffurfiol i’r Comisiwn.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod Sir y Fflint yn parhau i fod yn uchel ei pharch am y dull o reoli etholiadau, yr arferion a’r ddarpariaeth. Dywedodd fod y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad wedi bod ychydig yn is yn 2022 (36%) nag yn 2017 (38.73%), a thynnodd sylw at ganlyniadau’r etholiad fel y’u nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Tîm Etholiadau, Timau Rheoli’r Cyfrif, a phawb a fu’n rhan o broses yr etholiadau. Dywedodd fod yr etholiadau a’r cyfrif wedi eu trefnu a’u cynnal yn dda. Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged yn arbennig i’r Swyddog Canlyniadau am ei berfformiad canmoladwy drwy gydol yr etholiadau, a’i gyngor ac arweiniad wrth ymateb i’r holl faterion a godwyd. Wrth ddod i gasgliad, diolchodd y Cynghorydd Roberts hefyd i’r holl ymgeiswyr a oedd wedi cyflwyno’u henwau ar gyfer yr etholiadau lleol.
Cytunodd y Cynghorydd Bernie Attridge gyda sylwadau’r Cynghorydd Roberts, a diolchodd i’r Swyddog Canlyniadau, y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, a phawb a fu’n rhan o broses yr etholiadau am eu heffeithlonrwydd a’u proffesiynoldeb.
Diolchodd y Cynghorwyr Chris Bithell, Marion Bateman, Bill Crease, Gladys Healey, Dennis Hutchinson, Hilary McGuill, Richard Jones a Billy Mullin i Swyddogion a staff am eu gwaith, eu hymroddiad, ac am reolaeth a chanlyniad llwyddiannus i’r etholiadau.
Tynnodd y Cynghorydd Richard Jones sylw at yr angen i gydnabod y gwasanaeth a roddwyd gan gyn-Gynghorwyr na fyddai’n dychwelyd ar gyfer tymor arall yn eu swydd gyda’r Cyngor Sir. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cyflwynid bathodyn i Gynghorwyr pan fônt yn ymddeol, a chynhelid digwyddiad dinesig yn ddiweddarach yn ... view the full Cofnodion text for item 9