Mater - cyfarfodydd

School Modernisation - Mynydd Isa Campus Project

Cyfarfod: 12/07/2022 - Cabinet (eitem 24)

24 Moderneiddio Ysgolion - Prosiect Campws Mynydd Isa pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu contract ar gyfer gwaith adeiladu Prosiect Campws Mynydd Isa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem, oedd yn dilyn diweddariadau blaenorol i’r Cabinet ar Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (y cyn Raglen Fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif, Band B) ar gyfer y prosiect Campws 3-16 ym Mynydd Isa.

 

Rhoddodd yr adroddiad y cefndir i’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a chynnydd y prosiect drwy broses achos busnes Llywodraeth Cymru, a’r broses datblygu dyluniad i sicrwydd cost.

 

Amlinellwyd manylion y rhwymedigaethau cyfalaf a refeniw yn yr adroddiad a gofynnwyd am gymeradwyaeth am y taliad gwasanaeth blynyddol, ac i gytuno ar Gytundeb Prosiect ar gyfer y cam adeiladu, cyllid a chynnal a chadw’r adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig ar gyfer prosiect campws blynyddoedd 3-6. Roedd yn seiliedig ar uchafswm ariannol a bennir gan Lywodraeth Cymru i oresgyn yr heriau presennol i’r sector adeiladu/cadwyn gyflenwi, cymhlethdodau’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac er mwyn cadw amserlen y prosiect ar amser. 

 

Oherwydd natur y Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat, ysgrifennwyd yr adroddiad yn rhannol i sicrhau bod gofynion cyllidwyr yn cael eu bodloni ac o ganlyniad roedd yr adroddiad yn cynnwys geiriad technegol a chyfreithiol a oedd wedi cael eu symleiddio cymaint â phosibl. 

 

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, rhagwelir y byddai’r gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Awst 2022 a’r bwriad oedd symud i’r adeilad ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2024. Byddai gwaith allanol yn dilyn, gan ddechrau gyda’r gwaith o ddymchwel Ysgol Uwchradd Argoed. Gallai unrhyw oedi cyn dechrau’r gwaith arwain at oedi sylweddol i’r prosiect a chynnydd cysylltiedig mewn costau. Byddai cymeradwyaeth y Cabinet yn caniatáu i’r pecyn ariannol ar gyfer y prosiect gael ei gwblhau ynghyd ag arwyddo Cytundebau a dechrau’r gwaith yn unol â’r rhaglen.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod materion byd-eang amrywiol wedi bod yn effeithio ar brisiau yn y farchnad adeiladu yn ystod y 24/30 mis diwethaf, o ganlyniad i Brexit, y pandemig Covid 19 a’r rhyfel yn Wcráin.  Roedd y rhain wedi cyfuno a’r effaith oedd:

·         Cynnydd yn y galw am adeiladu (wedi COVID)

·         Amhariad i’r gadwyn gyflenwi ac argyfwng ynni parhaus. Canlyniadau hyn oedd diffyg deunyddiau adeiladu

·         Chwyddiant uchel a phrisiau anwadal

·         Prisiau uchel deunyddiau crai

·         Prisiau uchel ynni a mwy o ansicrwydd

 

Er mwyn i’r prosiect fynd yn ei flaen, roedd tîm MIM Llywodraeth Cymru, gyda’u harbenigwyr a gomisiynwyd, wedi gosod uchafswm ariannol, oedd yn gosod amcangyfrif o uchafswm y tâl gwasanaeth blynyddol. Roedd yr uchafswm a amcangyfrifwyd yn ganlyniad uniongyrchol y materion presennol yn ymwneud â’r farchnad, chwyddiant a’r gadwyn gyflenwi sy’n wynebu’r diwydiant adeiladu ar hyn o bryd ac roedd yn adlewyrchiad o sefyllfa’r prosiect yn y broses fanwl o brofi marchnad/sicrwydd cost. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai ffigwr prosiect is yn cael ei gadarnhau wrth i’r prosiect symud tuag at derfyn ariannol ym mis Gorffennaf/Awst 2022.

 

Roedd yr Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru hefyd yn gofyn am gytundeb gan Lywodraeth Cymru i osod cyfraniad tâl gwasanaeth blynyddol y Cyngor ar uchafswm o £1,000,000 y flwyddyn. Os bydd ffigwr y prosiect yn is na’r uchafswm, fel y rhagwelir, byddai hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 24