Mater - cyfarfodydd

Draft Statement of Accounts 2021/22

Cyfarfod: 27/07/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 19)

19 Datganiad Cyfrifon Drafft 2021/22 pdf icon PDF 96 KB

Cyflwyno Datganiad Cyfrifon drafft 2021/22 er gwybodaeth yr Aelodau yn unig ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid Strategol Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2021/22 (eto i’w harchwilio) er gwybodaeth yn unig am y tro.  Roedd y rhain yn cynnwys cyfrifon y Gr?p a’i is-gwmniau sydd mewn perchnogaeth lwyr, ynghyd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel y’i adolygwyd yn y cyfarfod blaenorol.  Unwaith eto byddai cyfnod ymgynghori agored yn ystod yr haf ar gyfer yr Aelodau er mwyn iddynt allu codi unrhyw agwedd ar y cyfrifon gyda swyddogion cyn i’r Pwyllgor dderbyn y fersiwn archwiliedig terfynol i’w gymeradwyo.

 

Cafwyd cyflwyniad ar y pryd ar y meysydd canlynol:

 

·         Pwrpas y chefndir y Cyfrifon

·         Cynnwys a Throsolwg

·         Cyfrifoldeb am y cyfrifon

·         Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb

·         Newidiadau i Ddatganiad Cyfrifon 2021/2

·         Materion ac Effeithiau Allweddol

·         COVID-19 – Cyllid Grant Argyfwng

·         Penawdau – Cronfa'r Cyngor (Refeniw), Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Symudiadau Arwyddocaol, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT)

·         Gr?p Llywodraethu Cyfrifon

·         Amserlen a’r Camau Nesaf

 

Cadarnhawyd bod y cyfrifon drafft wedi’u cwblhau a’u cyflwyno o fewn y terfyn amser a oedd wedi’i ymestyn gan Lywodraeth Cymru  mewn cydnabyddiaeth o effeithiau’r pandemig.  Roedd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno’r cyfrifon archwiliedig terfynol wedi’i ymestyn tan 30 Tachwedd 2022.

 

Tynnodd Mike Whiteley sylw at y risg posibl cysylltiedig â gallu Archwilio Cymru i gwrdd â therfyn amser y Pwyllgor i gymeradwyo’r cyfrifon terfynol yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2022.  Yng ngoleuni’r fframwaith estynedig a bennodd Llywodraeth Cymru a’r canllaw ar brisio asedau y disgwylir amdano o hyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) gofynnodd am farn y Pwyllgor ynghylch cyflwyno’r cyfrifon terfynol er cymeradwyaeth yng nghyfarfod mis Tachwedd neu bod yn dyddiad hwnnw’n cael ei ddwyn ymlaen er mwyn galluogi Archwilydd Cyffredinol Cymru i gymeradwyo’r cofnodion o fewn y terfyn amser diwygiedig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Banks am gyfraniadau ariannol i Theatr Clwyd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y rhain yn ffurfio rhan o elfennau Cyllido Canolog a Chorfforaethol Monitro’r Gyllideb Refeniw.  Ar ôl cael eglurhad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar drefniadau adrodd sefydliadau partner allanol, cytunwyd y byddai’r swyddogion yn adolygu geiriad y cyfrifon terfynol i wahaniaethu’n glir rhwng y trefniadau ar gyfer Theatr Clwyd yn hytrach na NEW Homes a Newydd sy’n is-gwmnïau mewn meddiannaeth lwyr i’r Cyngor.  Cafwyd awgrym gan y  Cynghorydd Banks y gellid rhoi eglurhad byr o dan yr adran ar Gwmnïau Cysylltiol o fewn y ddogfen.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar y cynnydd mewn cronfeydd heb eu clustnodi, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y cefndir ar lefel sylfaenol y cronfeydd wrth gefn a gynhelir i ddiogelu yn erbyn amgylchiadau  nad oes modd eu rhagweld, yn ychwanegol at y cronfeydd sydd ar hyn o bryd yn uwch na’r arfer oherwydd bod LlC yn hwyr yn rhoi gwybodaeth am grantiau.  Siaradodd am bwysigrwydd diogelu cronfeydd wrth gefn i ddelio ag effeithiau anhysbys dyfarniadau cyflog a chynnydd chwyddiannol.  Wrth gymharu lefelau’r cronfeydd â chynghorau eraill, cyfeiriodd at adolygiad Archwilio Cymru  ar gynaliadwyedd ariannol sy’n cynnwys cymhariaeth o lefelau cronfeydd  ...  view the full Cofnodion text for item 19