Mater - cyfarfodydd

North Wales Market Stability Report

Cyfarfod: 27/09/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 33)

33 Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru pdf icon PDF 140 KB

Pwrpas:        Aelodau i gefnogi a chymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru.  

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gydweithio i gynhyrchu Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ochr yn ochr ag Asesiad o Anghenion Poblogaeth.  Roedd yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn darparu asesiad ar ddigonolrwydd gofal a chymorth o ran bodloni’r anghenion a’r galw am ofal cymdeithasol, fel y nodir yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir sy’n darparu gofal a chymorth. 

 

Mae’n rhaid cynhyrchu un Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru a derbyn cymeradwyaeth gan Fwrdd y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Cyngor Llawn ym mhob Awdurdod Lleol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Rhaid cyhoeddi’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad derfynol ar wefan pob Awdurdod Lleol, ar wefannau’r Byrddau Iechyd a gwefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn Gymraeg a Saesneg a chopi o’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.   Byddai’r Asesiad ar Anghenion Poblogaeth ac Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn cael ei ddefnyddio i hysbysu cynllun cyflawni lleol a rhanbarthol a datblygiad gwasanaeth i symud ymlaen.  Felly, gofynnodd bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngogledd Cymru 2022.

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y Rheolwr Contract a Chomisiynu a’i thîm am eu gwaith wrth gwblhau’r adroddiad.   Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ac roedd yn falch iawn o’r gwaith a gyflawnwyd yn natblygiad y gwasanaethau, megis Cartrefi Plant yn yr Wyddgrug, ac estyniad i’r cyfleuster yn Marleyfield ym Mwcle.  Bu i’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ddiweddaraf amlinellu’r gweithio mewn partneriaeth yng Ngogledd Cymru o fewn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ac yn cynnwys ôl-troed rhanbarthol ac amlygodd themâu Sir y Fflint.  

 

Darparwyd trosolwg o boblogaeth yr henoed yn y sir, gyda dros 65 rhagfynegiad yn ystod y 20 mlynedd yn uwch yn Sir y Fflint na’r cyfartaledd rhanbarthol.  Roedd rhaid i’r Awdurdod gynllunio i sicrhau bod yr holl wasanaethau yn gadarn i ddarparu’r gwasanaethau o ansawdd orau gyda’r adroddiad yn darparu gwybodaeth ragorol, ddim ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig ond i wasanaethau eraill hefyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar gau cartrefi gofal gan y Cynghorydd Peers, amlinellodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y berthynas waith agos gyda phartneriaid cartrefi gofal, ond dywedodd oherwydd pwysau roeddynt wedi’i brofi bod rhai wedi stopio gweithredu, ond nid oedd hyn yn digwydd yn aml.  Roedd sensitifrwydd o weithio mewn cartrefi gofal, teuluoedd a phreswylwyr yn cael eu deall i sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi ac yn setlo yn eu cartrefi eraill.   Gan gyfeirio at gapasiti cyffredinol, cadarnhaodd bod hyn wedi lleihau ac amlygodd bod yr Awdurdod angen darparu ei ddarpariaeth gofal o ansawdd dda ei hun, a dyna pam bod Maryfield wedi’i gwblhau a bod cynlluniau’n parhau i ymestyn Croes Atti yn y Fflint ac i ystyried opsiynau ar  ...  view the full Cofnodion text for item 33