Mater - cyfarfodydd
North Wales Market Stability Report
Cyfarfod: 26/09/2022 - Cabinet (eitem 42)
42 Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru PDF 141 KB
Pwrpas: Aelodau i gefnogi a chymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for North Wales Market Stability Report, eitem 42 PDF 2 MB
- Enc. 2 for North Wales Market Stability Report, eitem 42 PDF 985 KB
- Enc. 3 for North Wales Market Stability Report, eitem 42 PDF 82 KB
- Enc. 4 for North Wales Market Stability Report, eitem 42 PDF 238 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn cynnig trosolwg o Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngogledd Cymru 2022 yr oedd wedi’i lunio’n unol â gofyniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae’n rhaid llunio un Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ranbarthol ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru a’i gymeradwyo gan Gyngor pob un o ardaloedd yr Awdurdod Lleol, a Bwrdd y Bwrdd Iechyd Lleol.
Dylai asesiad o’r farchnad ofal gael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi erbyn mis Mehefin 2022. Rhannwyd drafft o’r adroddiad â Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, eglurwyd i Lywodraeth Cymru ei fod yn ddrafft cynnar nad oedd wedi’i gymeradwyo gan Gynghorau llawn a’r Bwrdd Iechyd eto. Cafodd y broses gymeradwyo ei chynnal rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Hydref 2022 ac aeth fersiwn derfynol yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym mis Tachwedd 2022 cyn iddi gael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod yn rhaid cyhoeddi’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad terfynol ar wefan pob awdurdod lleol, ar wefan y Bwrdd Iechyd a gwefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn Gymraeg a Saesneg. Byddai copi o’r adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru. Roedd yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad llawn yn ddogfen hir a byddai crynodeb gweithredol a fformatau hygyrch hefyd ar gael er mwyn gwneud y cynnwys a'r negeseuon allweddol yn fwy hygyrch a dealladwy.
Roedd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan y Cyngor Sir y diwrnod canlynol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwywyd yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngogledd Cymru 2022.