Mater - cyfarfodydd
Internal Audit Annual Report 2021/22
Cyfarfod: 08/06/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 12)
12 Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 PDF 89 KB
Rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad yr holl waith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2021/22 a rhoi’r farn Archwilio Mewnol flynyddol ar safon rheolaeth fewnol, rheoli risg a llywodraethu yn y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Internal Audit Annual Report 2021/22, eitem 12 PDF 3 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad, a oedd yn rhoi crynodeb o’r canlyniadau yn sgil gwaith archwilio a wnaed yn ystod 2021/22, cydymffurfiaeth â’r Safonau a chanlyniadau’r rhaglen sicrhau ansawdd a gwella.
Ar sail y gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol, y sicrwydd uniongyrchol gan y rheolwyr a sicrwydd allanol gan Archwilio Cymru, ym marn yr archwilwyr roedd gan y Cyngor fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheoli mewnol ar gyfer y cyfnod. Wrth ddod i’r casgliad hwn, roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol wedi ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys canlyniadau’r gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol ac Archwilio Cymru. Ymysg y meysydd allweddol a amlygwyd roedd lefel cwmpas yr archwiliad yn ystod y flwyddyn, archwilio trydydd partïon a safle cyffredinol y farn sicrwydd a’r camau gweithredu a godwyd ar draws y portffolios. Fe soniodd y Rheolwr Archwilio Mewnol hefyd am effeithiolrwydd perfformiad ei gwasanaeth, yn cynnwys ei rôl arweiniol hi ar Gr?p Tasg a Gorffen er mwyn adolygu a chydgasglu data meincnodi ar draws Cymru.
Croesawodd Allan Rainford yr adroddiad a chafodd wybodaeth am y dull o gynyddu’r nifer o holiaduron cleientiaid ôl-archwiliad a gwblhawyd tra’n blaenoriaethu olrhain camau gweithredu.
Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am y tri adroddiad sicrwydd coch a chafodd wybod am drefniadau adrodd i’r Pwyllgor hwn a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chynlluniau gweithredu priodol.
Gan ymateb i sylwadau’r Cadeirydd ar dueddiadau, dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol nad oedd yna bryderon presennol a bod y Cynllun Archwilio yn canolbwyntio ar feysydd o risg uchel ar draws y sefydliad.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhust a’r Parchedig Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a barn flynyddol Archwilio Mewnol.