Mater - cyfarfodydd

Certification of Grants and Returns 2020/21

Cyfarfod: 08/06/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 7)

7 Tystysgrif Grantiau a Ffurflenni 2020/21 pdf icon PDF 81 KB

Hysbysu Aelodau o'r ardystiad hawl grant gan Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad blynyddol Archwilio Cymru ar ardystiad hawl grant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021. Nid oedd yna addasiadau sylweddol i unrhyw un o’r tri hawl a dim ond un mân newid cadarnhaol i’r Ffurflen Cymhorthdal Budd-dal Tai. Ar ôl ystyried casgliadau gan y Tîm Rheoli Cyllid a’r meysydd gwasanaeth perthnasol, roedd cynnydd ar waith ar gamau i fynd i’r afael ag argymhellion ac i wella systemau ar gyfer archwiliad 2021/22.

 

Wrth grynhoi’r prif gasgliadau, dywedodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru fod y Cyngor wedi arddangos trefniadau cyffredinol digonol ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno hawliadau grant, gyda sgôp ar gyfer gwelliant. Roedd perfformiad cyffredinol yn dda a bu ymgysylltu a chydweithio da gan swyddogion trwy gydol yr archwiliad.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Parchedig Brian Harvey am risgiau’n ymwneud â phwysau ar weithlu, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i staff yn ogystal â rhoi mwy o bwyslais ar les o fewn y system werthuso gweithwyr gan gydnabod y mater pwysig yma.

 

Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, siaradodd Allan Rainford am gymhlethdod yr hawliadau cymhorthdal budd-dal tai, ac awgrymodd y byddai rhagor o fanylion yn helpu i ddarparu mwy o eglurder ar faint y llwyth achosion o’i gymharu ag achosion a brofwyd. Cafodd hyn ei nodi gan Mike Whiteley a roddodd drosolwg o’r dull profi sampl y mae Archwilio Cymru yn ei ddefnyddio.

 

Ar ôl sylw gan y Cadeirydd am yr hawliau grant cymwys, dywedodd Mike Whiteley er nad oedd yn arwyddocaol, roedd lefel debyg o ddiffygion yn cael eu nodi bob blwyddyn mewn meysydd tebyg. Fe ychwanegodd bod llwyth gwaith sylweddol wrth brosesu hawliadau cymhorthdal budd-dal tai a arweiniodd yn anochel at ddiffygion a effeithiodd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth am nifer yr achosion cymhorthdal budd-dal tai yn cael ei rannu er mwyn rhoi cyd-destun i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey a’r Cynghorydd Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys adroddiad Ardystiad Hawl Grant ar gyfer 2020/21.