Mater - cyfarfodydd

Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018

Cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 6)

6 Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 pdf icon PDF 100 KB

Diweddariad i’r Aelodau ar weithrediad y cynllun ac unrhyw ddiweddariadau cenedlaethol/rhanbarthol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

               

            Eglurodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) y prif bwyntiau yn yr adroddiad, gan sôn fod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2008 wedi dod i rym yn 2008, ond heb ei gweithredu’n llawn nes Medi 2021.

 

Byddai’r cyfundrefnau Anghenion Addysgol Arbennig ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gweithredu ochr yn ochr am dair blynedd.  Darparwyd gwybodaeth yngl?n â’r prosesau ar gyfer adnabod a oedd gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol a symud plentyn o un gyfundrefn i’r llall, ac esboniwyd y Cynlluniau Datblygu Unigol.  Ers cyhoeddi’r Cod bu modd sefydlu prosesau a phaneli ar gyfer adnabod a oedd gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol a gweithredu’r Cynlluniau Datblygu Unigol. 

 

Dywedodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) fod y Cod yn pennu nifer o swyddogaethau statudol, gan gynnwys creu swyddi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion a’r Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Blynyddoedd Cynnar â chyfrifoldeb am blant cyn ysgol.  Rhoddwyd braslun o’r system ECLIPSE a oedd yn sicrhau bod ysgolion a’r awdurdod yn cyflawni eu cyfrifoldebau ac yn bodloni’r gofynion newydd ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.   Darparwyd gwybodaeth yngl?n â’r hyfforddiant a ddarperid i ysgolion, y gofynion newydd a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn ysgolion, yn ogystal â newidiadau ar gyfer dysgwyr ôl-16. 

 

Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) ei bod yn aelod o’r Gr?p Llywio Cenedlaethol a sefydlwyd i gynorthwyo Cynghorau â’r Ddeddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg a sicrhau bod y gwaith o ddatblygu cynllun ariannu ôl-16 yn deg i’r holl awdurdodau lleol.   Cadarnhaodd yr heriwyd Llywodraeth Cymru yngl?n â niwtraliaeth costau’r ddeddfwriaeth ADY newydd, gan gynnwys llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor hwn, ac yn sgil hynny bod Llywodraeth Cymru bellach yn darparu ychwaneg o gyllid am dair blynedd i gynghorau ac ysgolion.  Rhannwyd mwy o wybodaeth hefyd am y modd y bwriedid defnyddio’r grant.

 

            Soniodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol fod teuluoedd ac ysgolion wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i’r system a’r prosesau newydd. Bu mwy o gydweithio â’r Cydlynwyr ADY, plant a phobl ifanc a rhieni, yn unol ag egwyddorion y Cyngor.  Roedd yr ymateb yn galonogol.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Save Mackie bryderon y gallai hyn droi’n broses lafurus a drud i ysgolion.  Soniodd am ganllawiau Llywodraeth Cymru yngl?n â’r prosesau ar gyfer dysgwyr ôl-16 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac awgrymodd bod y Cydbwyllgor yn derbyn adroddiad yngl?n â’r dull o adnabod anghenion a chomisiynu addysg ôl-16 ar gyfer pobl ifanc Sir y Fflint.  Roedd y Pwyllgor o blaid yr awgrym hwn.  

 

Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) y byddai’r cyllid dan adolygiad parhaus, a rhoes wybodaeth am gyfarfodydd y fforwm y bu swyddogion a gweinidogion Llywodraeth Cymru’n bresennol ynddynt er mwyn sicrhau fod hyn yn ganolog i’r trafodaethau.   Rhoes wybodaeth fanwl am gyfarfodydd y gweithgor rhanbarthol ôl-16 a’r dull gweithredu ‘llifo drwodd’, a chytunodd i ddod ag adroddiad gerbron y Cydbwyllgor yn fuan. 

 

            Holodd Mrs Lynn Bartlett a oedd yr holl blant yn symud o un system i’r llall, ynteu a oedd rhai o’r plant nad  ...  view the full Cofnodion text for item 6