Mater - cyfarfodydd

Safeguarding in Education

Cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 4)

4 Diogelu mewn Addysg pdf icon PDF 116 KB

Diweddariad i’r Aelodau ar gyflawniad y dyletswyddau diogelu statudol mewn ysgolion a’r portffolio Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoes yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu fraslun o’r prosesau diogelu’r oedd y Cyngor yn eu darparu a chyfraniad y Swyddogion at y Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid a’r Gwasanaethau Plant.  Darparwyd gwybodaeth hefyd yngl?n â’r blaenoriaethau ar gyfer hyfforddiant diogelu a rhannu gwybodaeth allweddol ag ysgolion er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel.   

 

            Darparodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu wybodaeth yngl?n â phrif bwyntiau canllawiau Llywodraeth Cymru: Diogelu Addysg, a oedd yn cynnwys offeryn archwilio i ysgolion ei ddefnyddio, ac eglurodd fod gan yr holl ysgolion ddyletswyddau statudol, yn enwedig felly ym maes diogelu.  Câi’r holl offerynnau archwilio ac adroddiadau eu hadolygu dros yr haf fel y gellid ymateb i’r themâu allweddol a hwyluso’r hyfforddiant.  Rhoes fraslun o’r hyfforddiant proffesiynol a ddarperid ar y we; bu’r ymateb iddo’n gadarnhaol a defnyddiwyd y sylwadau wrth gynllunio rhaglenni hyfforddiant yn y dyfodol. 

 

            Darparwyd gwybodaeth am Gynllun Gweithredu’r Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid, a chadarnhawyd na dderbyniwyd Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru eto.  Esboniwyd sut yr eid ati i sefydlu hyn mewn ysgolion yn barod ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi.

 

            Diolchodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) i’r Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu am ei gwaith.  Rhoes sicrwydd i’r Aelodau fod y tîm yn darparu cyngor, hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ardderchog i ysgolion ac yn eu cyfeirio at wahanol asiantaethau.  Roedd y Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid yn dod o dan y Panel Diogelu Corfforaethol gan sicrhau y dilynid yr holl brosesau diweddaraf.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry ei bod wedi gwneud yr hyfforddiant a’i bod yn ei ganmol.  Yn dilyn awgrymiadau yngl?n â phynciau eraill y gellid darparu hyfforddiant ar-lein ar eu cyfer, cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu y byddai’n siarad â’r Cynghorydd Carberry wedi’r cyfarfod. 

 

Argymhellodd y Cynghorydd Bill Crease fod yr holl Aelodau’n gwneud yr hyfforddiant, a rhoes ganmoliaeth i waith y Cyngor.  Dywedodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) fod yr hyfforddiant newydd a’r hyfforddiant gloywi’n ffyrdd ardderchog o ddysgu.  Byddai’n hapus i rannu rhywfaint o awgrymiadau ac roedd hi’n agored i unrhyw syniadau am hyfforddiant ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion.  Drwy ddarparu’r hyfforddiant ar-lein bu modd darparu mwy o sesiynau.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden nad dim ond mater i ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol oedd hyn, ond yn hytrach yn rhywbeth i bawb a oedd yn gweithio yn yr awdurdod.  Rhoes enghreifftiau o’r pryderon a godwyd mewn ysgolion yngl?n â chaethwasiaeth fodern, ymddygiad rheolaethol neu gam-drin oedolion bregus.  Anogodd Gynghorwyr i fanteisio ar y cyfle i wneud yr hyfforddiant a magu gwell dealltwriaeth o’r materion perthnasol yn Sir y Fflint.  Diolchodd i’r swyddogion a oedd yn ymdrin â’r materion hyn bob dydd mewn ysgolion a phob rhan o’r Cyngor. 


               
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod ef a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn gyd-gadeiryddion ar y Panel Diogelu Corfforaethol.  Anogodd yr Aelodau i wneud yr hyfforddiant diogelu corfforaethol er mwyn meddu  ...  view the full Cofnodion text for item 4