Mater - cyfarfodydd

Constitutional Issues including Committees

Cyfarfod: 24/05/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 7)

7 Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill, a materion eraill megis dyrannu seddi gyda chydbwysedd gwleidyddol.

 

Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried.  Ystyriwyd pob adran yn ei thro, a phleidleisio arni.

 

 

 

(i)        Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Apeliadau; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; Pwyllgor Cwynion; Pwyllgor Apeliadau Cwynion; Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu; Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Safonau; a phum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (fel y rhestrwyd ym mharagraff 1.01 yr adroddiad). 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod y Pwyllgor Trwyddedu’n cael ei drosglwyddo i Gr?p Annibynnol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts ddiwygiad i’r argymhelliad yn yr adroddiad, a chynnig y dylid creu Pwyllgor Newid Hinsawdd newydd i hybu gweledigaeth y Cyngor o chwilio am atebion i effaith newid hinsawdd ar gymunedau lleol yn Sir y Fflint.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Bithell ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Newid Hinsawdd

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau; a’r

Pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel y rhestrwyd yn yr adroddiad. 

 

(ii)        Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol.  Yr oedd y Cyngor wedi cytuno o’r blaen y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr er mwyn gallu cynrychioli’r holl grwpiau gwleidyddol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod maint y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion, a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu, fel y nodwyd yn 1.04 yn yr adroddiad, wedi ei gynyddu ar ôl hynny i 13 er mwyn cynrychioli’r holl grwpiau gwleidyddol.

 

Wrth ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge am y cydbwysedd gwleidyddol arfaethedig, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, a’r angen i benderfynu ar gydbwysedd gwleidyddol ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd newydd, awgrymodd y Prif Swyddog fod cylch gorchwyl ac aelodaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cael eu pennu yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir ar 19 Gorffennaf, a bod cydbwysedd gwleidyddol Pwyllgorau’n cael eu hadolygu a’u hailgyfrifo hefyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Jones.  Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod maint pob Pwyllgor fel ag y nodir ym mharagraff 1.04 yr adroddiad, a maint y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion, a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yn cael ei gynyddu i 13;  ...  view the full Cofnodion text for item 7