Mater - cyfarfodydd
End of Year Performance Monitoring Report
Cyfarfod: 05/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 10)
10 Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2021-22 PDF 118 KB
Pwrpas: Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1: Year-end progress report against 2021/22 Reporting Measures, eitem 10 PDF 752 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2021-22
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol, cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ei fod yn seiliedig ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2021/2022, a gymeradwywyd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Mehefin 2021. Amlinellwyd targedau perfformiad a blaenoriaethau’r Cyngor yn erbyn y blaenoriaethau hynny a oedd yn ymwneud â Gwasanaethau Stryd, Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, ym mhwynt 1.05 yn yr adroddiad. Yna, darparodd y Rheolwr Archwilio Mewnol wybodaeth am y broses fonitro a oedd ar waith drwy gydol y flwyddyn.
Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth am y tri dangosydd coch, sef:-
· Cefnogi busnesau lleol i leihau eu hôl-troed carbon a darparodd fwy o fanylion am hyn.
· Nifer yr unigolion sy’n mynd i gyflogaeth, addysg neu waith gwirfoddol.
· Nifer yr unigolion sy’n derbyn cefnogaeth.
Yna, darparodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio wybodaeth fanwl am y 5 dangosydd perfformiad coch ar gyfer Gwasanaethau Stryd a Chludiant.
Sef:-
- Canolbwynt cludiant amlfodd yn Garden City.
- Gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan.
- Cyflwyno dau gerbyd ailgylchu trydan a ariannwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru (LlC), ond bu oedi o ran derbyn y cerbydau hynny.
- Canran y gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio.
- Partneriaethau ansawdd bysiau - Adolygiad rhwydwaith LlC
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod targed perfformiad ailddefnyddio, compostio ac ailgylchu Llywodraeth Cymru yn 64% y llynedd gyda’r Cyngor yn cyflawni 60.5%. Roedd hyn oherwydd y cynnydd i 70% yn 2024/25 gyda’r Cyngor yn cael dirwy o £200 am bob tunnell yr oedd yn cael ei hanfon i safle tirlenwi os nad oedd y targed hwnnw yn cael ei gyrraedd. Darparodd wybodaeth am y lefelau cynyddol o wastraff dros ben a gasglwyd yn ystod y pandemig wrth i bobl weithio gartref a chael gwared ar eu gwastraff ailgylchu gyda’u gwastraff bin du oherwydd bod y safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi cau. Wrth symud ymlaen fe eglurodd, unwaith y byddai’r wybodaeth o’r dadansoddiad cyfansoddol wedi dod i law, byddai’n ein galluogi i ymgysylltu â thrigolion i annog mwy o ailgylchu yn enwedig gyda defnydd y gwasanaeth gwastraff bwyd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar ailgylchu gwastraff a thargedu’r ardaloedd gwaethaf, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio eu bod yn edrych ar astudiaethau RFID, a rhoi sglodion electronig ar finiau i wneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon, ond nid oedd y data ar gael eto. Gallai hyn ddarparu gwybodaeth ar sut mae trigolion yn ailgylchu ond fe ychwanegodd bod y rhan fwyaf o’r trigolion yn ailgylchu.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â gwefan y Cyngor a’r dudalen ‘gwirio eich diwrnod casglu’, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio eu bod yn ymwybodol o’r broblem. Roedd y dudalen wedi cael ei hanalluogi ac roedd yr Adran TG yn gweithio i drwsio hyn ar hyn o bryd a gobeithiwyd y byddai’n ôl yn weithredol yn fuan. Cynghorwyd trigolion i ffonio Canolfan Gyswllt y Gwasanaethau Stryd neu gyfeirio at eu calendr casgliadau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar ... view the full Cofnodion text for item 10