Mater - cyfarfodydd
Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE
Cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 21)
21 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol , GwE 2021-2022 PDF 104 KB
I gael diweddariad ar y cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, GwE a’r effaith ar ysgolion.
Dogfennau ychwanegol:
- Document 1 - GwE Annual Report 2021-2022, eitem 21 PDF 565 KB
- Appendix 1 - GwE Support during the COVID-19 pandemic, eitem 21 PDF 327 KB
- Appendix 2 - Impact of GwE's work March 2022, eitem 21 PDF 552 KB
- Appendix 3 - Progress Report on Reform Journey - Autumn Term 2021, eitem 21 PDF 973 KB
- Appendix 4 - Regional Strategy - Renew and Reform Strategy, eitem 21 PDF 773 KB
- Appendix 5 - Training Data Report Flintshire, eitem 21 PDF 472 KB
- Appendix 6 - GwE Regional Business Plan 2022-2023, eitem 21 PDF 458 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol , GwE 2021-2022
Cofnodion:
Diolchodd y Cadeirydd i GwE am y gefnogaeth y maent wedi’i darparu i arweinwyr ysgolion yn ystod y Pandemig ac am eu cefnogaeth barhaus i ysgolion Sir y Fflint wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (CiG).
Esboniodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant) bod cyflwyniad wedi cael ei baratoi i ychwanegu at yr adroddiadau sydd ynghlwm wrth y rhaglen. Cyflwynodd Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) a David Edwards (Arweinydd Craidd Cynradd), a fyddai hefyd yn cynorthwyo gyda’r cyflwyniad a oedd yn canolbwyntio ar waith sy’n cael ei wneud mewn ysgolion ar hyn o bryd, gwybodaeth am bolisïau a chymorth adfer ar ôl y pandemig i ysgolion gan Lywodraeth Cymru (LlC).
Rhoddodd yr Arweinydd Craidd Cynradd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-
· Tri phrif flaenoriaeth GwE:-
ØGweithredu’r Cwricwlwm i Gymru
ØSicrhau prosesau hunanwerthuso cadarn
ØArolygiadau Estyn
· Cynradd - Cwricwlwm i Gymru
Ønodi ffactorau unigryw eu hysgol a sut mae’r rhain yn cyfrannu at y pedwar pwrpas
Øadolygu eu gweledigaeth, gwerthoedd ac ymddygiadau i gefnogi’r cwricwlwm
Øbod yn ystyriol o’r ystyriaethau allweddol e.e. elfennau statudol a gorfodol
Øadolygu modelau dylunio’r cwricwlwm
Øystyried rôl cynnydd ac addysgeg yn eu cwricwlwm
Ødechrau dylunio, cynllunio, treialu a gwerthuso pynciau newydd.
· Cynradd - Hunanwerthuso a sicrhau ansawdd
· Cynradd - Arolygiadau Estyn
Parhaodd yr Arweinydd Craidd Uwchradd gyda’r cyflwyniad a oedd yn cwmpasu’r meysydd canlynol:
· Uwchradd - Cefnogaeth i’r Cwricwlwm i Gymru
Ø Mae holl ysgolion Sir y Fflint wedi gwneud defnydd eang o’r rhaglen gefnogaeth ranbarthol
Ø Mae ymgysylltiad da wedi bod â’r grwpiau cynllunio rhanbarthol / lleol.
Ø Mae’r ysgolion wedi derbyn y cynnig o fewnbwn penodol ac unigryw gan dîm GwE ar addysgu a dysgu
Ø Mae cydweithio ar gynnydd trwy glystyrau a thrwy gynghreiriau
Ø Yn nhymor yr haf, ymgymerwyd ag adroddiadau ‘Chwe Cham’ (yn canolbwyntio ar ofynion y Gweinidog Addysg i symud ymlaen tuag at y CiG) gyda phob ysgol yn dilyn trafodaethau rhwng ysgolion a’u Hymgynghorwyr Gwella Ysgolion.
· Uwchradd - hunanwerthuso a sicrhau ansawdd
· Paratoi ar gyfer arolygiadau mewn ysgolion uwchradd o dan Fframwaith newydd Estyn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst am gadernid a mesur gwrthrychol Arolygiadau Estyn, dywedodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant), yn y gorffennol oherwydd bod Estyn yn canolbwyntio ar ganlyniadau arholiadau roedd gwaith yr oedd y disgyblion wedi’i gwblhau yn yr ystafell ddosbarth wedi dod yn ail. R?an sylfaen tystiolaeth Estyn oedd y llyfrau yr oedd y disgyblion yn gweithio ohonynt ar y pryd, a’r gwersi yr oeddent yn eu cael a oedd yn cael eu cymedroli. Esboniodd sut y byddai hyn yn gweithio mewn ysgolion. Roedd GwE yn cefnogi ysgolion ond dywedodd y byddai’n cymryd rhywfaint o amser i sefydlu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd.
Esboniodd Mr Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) mai’r amrywiad o fewn yr ysgol sydd fwyaf arwyddocaol ac esboniodd beth oedd GwE yn canolbwyntio arno. Rhoddodd wybodaeth am ddadansoddiad o lefel cwestiwn a fyddai’n galluogi strategaethau hyfforddiant i gael eu darparu i greu gwelliannau. Byddai’r data ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 21