Mater - cyfarfodydd

Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE

Cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 21)

21 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol , GwE 2021-2022 pdf icon PDF 104 KB

I gael diweddariad ar y cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, GwE a’r effaith ar ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Diolchodd y Cadeirydd i GwE am y gefnogaeth y maent wedi’i darparu i arweinwyr ysgolion yn ystod y Pandemig ac am eu cefnogaeth barhaus i ysgolion Sir y Fflint wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (CiG). 

 

Esboniodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant) bod cyflwyniad wedi cael ei baratoi i ychwanegu at yr adroddiadau sydd ynghlwm wrth y rhaglen.  Cyflwynodd Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) a David Edwards (Arweinydd Craidd Cynradd), a fyddai hefyd yn cynorthwyo gyda’r cyflwyniad a oedd yn canolbwyntio ar waith sy’n cael ei wneud mewn ysgolion ar hyn o bryd, gwybodaeth am bolisïau a chymorth adfer ar ôl y pandemig i ysgolion gan Lywodraeth Cymru (LlC).

 

Rhoddodd yr Arweinydd Craidd Cynradd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

·         Tri phrif flaenoriaeth GwE:-

 

ØGweithredu’r Cwricwlwm i Gymru

ØSicrhau prosesau hunanwerthuso cadarn

ØArolygiadau Estyn

 

·         Cynradd - Cwricwlwm i Gymru

 

Ønodi ffactorau unigryw eu hysgol a sut mae’r rhain yn cyfrannu at y pedwar pwrpas

Øadolygu eu gweledigaeth, gwerthoedd ac ymddygiadau i gefnogi’r cwricwlwm

Øbod yn ystyriol o’r ystyriaethau allweddol e.e. elfennau statudol a gorfodol

Øadolygu modelau dylunio’r cwricwlwm

Øystyried rôl cynnydd ac addysgeg yn eu cwricwlwm

Ødechrau dylunio, cynllunio, treialu a gwerthuso pynciau newydd. 

 

·         Cynradd - Hunanwerthuso a sicrhau ansawdd

 

·         Cynradd - Arolygiadau Estyn

 

Parhaodd yr Arweinydd Craidd Uwchradd gyda’r cyflwyniad a oedd yn cwmpasu’r meysydd canlynol:

 

·         Uwchradd - Cefnogaeth i’r Cwricwlwm i Gymru

 

Ø  Mae holl ysgolion Sir y Fflint wedi gwneud defnydd eang o’r rhaglen gefnogaeth ranbarthol

Ø  Mae ymgysylltiad da wedi bod â’r grwpiau cynllunio rhanbarthol / lleol.

Ø  Mae’r ysgolion wedi derbyn y cynnig o fewnbwn penodol ac unigryw gan dîm GwE ar addysgu a dysgu

Ø  Mae cydweithio ar gynnydd trwy glystyrau a thrwy gynghreiriau

Ø  Yn nhymor yr haf, ymgymerwyd ag adroddiadau ‘Chwe Cham’ (yn canolbwyntio ar ofynion y Gweinidog Addysg i symud ymlaen tuag at y CiG) gyda phob ysgol yn dilyn trafodaethau rhwng ysgolion a’u Hymgynghorwyr Gwella Ysgolion.

 

·         Uwchradd - hunanwerthuso a sicrhau ansawdd

 

·         Paratoi ar gyfer arolygiadau mewn ysgolion uwchradd o dan Fframwaith newydd Estyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst am gadernid a mesur gwrthrychol Arolygiadau Estyn, dywedodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant), yn y gorffennol oherwydd bod Estyn yn canolbwyntio ar ganlyniadau arholiadau roedd gwaith yr oedd y disgyblion wedi’i gwblhau yn yr ystafell ddosbarth wedi dod yn ail.  R?an sylfaen tystiolaeth Estyn oedd y llyfrau yr oedd y disgyblion yn gweithio ohonynt ar y pryd, a’r gwersi yr oeddent yn eu cael a oedd yn cael eu cymedroli.  Esboniodd sut y byddai hyn yn gweithio mewn ysgolion.  Roedd GwE yn cefnogi ysgolion ond dywedodd y byddai’n cymryd rhywfaint o amser i sefydlu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd.

 

 

            Esboniodd Mr Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) mai’r amrywiad o fewn yr ysgol sydd fwyaf arwyddocaol ac esboniodd beth oedd GwE yn canolbwyntio arno.  Rhoddodd wybodaeth am ddadansoddiad o lefel cwestiwn a fyddai’n galluogi strategaethau hyfforddiant i gael eu darparu i greu gwelliannau.  Byddai’r data ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 21