Mater - cyfarfodydd

Welsh Government (WG) Programmes Summer of Fun and Winter of Well-being

Cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 3)

3 Rhaglenni Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru (LlC) pdf icon PDF 235 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar Raglenni Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru (LlC).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoes y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddisgrifiad manwl o’r rhaglenni llwyddiannus “Haf o Hwyl” a “Gaeaf Llawn Lles”, gan gadarnhau y rhannwyd y wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ym mis Rhagfyr 2021.  Roedd yr adroddiad arfarnu cenedlaethol yn dangos mor bwysig oedd y rhaglenni hyn i bobl ifanc ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu ychwaneg o gyllid gydol y gaeaf ac eto ar gyfer y rhaglen eleni.   

 

            Rhoes y Prif Swyddog fraslun o’r prif amcanion a’r gweithgareddau a ddarparwyd, a soniodd am y cydweithio rhwng y Cyngor a phartneriaid (llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden Aura, gofalwyr ifanc, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, Menter Iaith Sir y Fflint a Wrecsam, a Theatr Clwyd) yn ogystal â’r timau a fu’n cynorthwyo.  Rhannodd wybodaeth yngl?n â’r modd y dosberthid y cyllid o £276,000 er mwyn anelu’r gefnogaeth at deuluoedd bregus, ac eglurodd sut y bwriedid hyrwyddo hyn i deuluoedd.  Darparwyd y rhaglen ochr yn ochr â’r cynlluniau’r oedd y Cyngor eisoes wedi’u darparu ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd gwestiynau yngl?n â darparu bwyd, hygyrchedd a chofrestru, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y darperid bwyd yn y digwyddiadau Haf o Hwyl ond nid yng nghynlluniau chwarae’r Cyngor, gan fod Llywodraeth Cymru wedi galluogi teuluoedd oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim i dderbyn taliadau uniongyrchol yn ystod y gwyliau.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno, serch hynny, i ddarparu rhywfaint o fwyd a byrbrydau yn y cynlluniau chwarae.  Wrth sôn am hygyrchedd, dywedodd y Prif Swyddog y cynhelid y gweithgareddau ar wasgar ledled y sir, gyda’r nod o alluogi cynifer o deuluoedd â phosib i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol.

 

            Wrth ateb cwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â’r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y darperid gweithgareddau ledled y sir a chytunodd y byddai’n dosbarthu gwybodaeth berthnasol ar ôl y cyfarfod.  Cadarnhaodd fod y rhaglen yn targedu plant agored i niwed yn benodol gyda chymorth y timau Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaethau Plant.  Darparwyd gwybodaeth hefyd yngl?n â threfniant cyfeillio er mwyn galluogi plant i gymryd rhan mewn cynlluniau chwarae lleol.

 

            Holodd y Cynghorydd Andy Hughes yngl?n â hyrwyddo’r digwyddiadau hyn a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol, y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd a phob dull posib arall i hyrwyddo’r rhaglen.  Gofynnodd i’r Aelodau a fedrent gynorthwyo wrth drosglwyddo’r neges.  Dywedodd y Cadeirydd fod manylion am y rhaglen ar wefan ei Chyngor Cymuned a bod ysgolion lleol yn cynnwys gwybodaeth yn eu newyddlenni.

 

            Holodd y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â’r cynllun chwarae yn yr Hôb, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cysylltwyd â Chynghorau Tref a Chymuned yn gynharach yn y flwyddyn i gynnig cydweithio wrth gynnal cynlluniau chwarae yn yr haf, a chytunodd y byddai’n siarad â’r Cynghorydd Healey ar ôl y cyfarfod.  Ni rannwyd gwybodaeth am yr Haf  ...  view the full Cofnodion text for item 3