Mater - cyfarfodydd

School Attendance & Exclusions

Cyfarfod: 14/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 10)

10 Presenoldeb mewn Ysgolion a Gwaharddiadau pdf icon PDF 101 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am bresenoldeb a gwaharddiadau dysgwyr ar gyfer Ysgolion Sir y Fflint a chymorth a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Ymgynnwys.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu (Ymgysylltu) wybodaeth fanwl yngl?n â lefelau presenoldeb a gwaharddiadau ledled y sir, sef y rhesymau pennaf am absenoldeb disgyblion rhwng Medi 2020 a Haf 2021. Rhoddwyd gwybodaeth yngl?n â’r tueddiadau ar gyfer presenoldeb mewn ysgolion, lefelau gwaharddiadau dros dro a pharhaol, ond roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i rannu gwybodaeth am y sefyllfa genedlaethol yn ystod y cyfnod hwn ac felly roedd y wybodaeth wedi’i chasglu gan ein hysgolion lleol a’i seilio ar ddata Systemau Rheoli Gwybodaeth Ysgol.  Gofynnodd i’r Aelodau droi at Atodiad 1 ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu marciau penodol i’r ysgolion eu defnyddio ar gyfer absenoldebau oherwydd Covid-19, ond fod llawer o’r absenoldebau wedi’u cofnodi â’r marc (i).  Bu’n rhaid i’r Gwasanaeth Lles Addysg a thimau eraill weithio mewn ffyrdd gwahanol yn ystod y pandemig Covid-19 ac yn ei sgil, ac eglurodd y prosesau a’r gefnogaeth a ddarparwyd i ddysgwyr agored i niwed er mwyn cadw mewn cysylltiad a sicrhau eu bod mewn lle diogel fel y gallant ddal i gyfranogi o’u haddysg.

 

            Rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am y gwaharddiadau Cyfnod Penodol a Pharhaol, a fu ar gynnydd mewn blynyddoedd diweddar, ac eglurodd y rhesymau am y gwaharddiadau hynny.  Rhoddwyd gwybodaeth fanwl yngl?n â sut roedd y tîm wedi newid ei ddull gweithredu er mwyn mynd ati i chwilio am broblemau a meithrin cyswllt â’r disgyblion dan sylw yn y gobaith o wella’r sefyllfa a’u galluogi i ddychwelyd i’r ysgol.

             

            Yn dilyn nifer o gwestiynau gan Aelodau, rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu wybodaeth fanwl yngl?n â’r drefn gwaharddiadau, patrymau ymddygiad, y marciau’r oedd Penaethiaid yn eu defnyddio a phwy oedd yn gyfrifol am gofnodi absenoldebau.  Roedd y pandemig wedi effeithio ar bresenoldeb disgyblion ac roedd Covid, iechyd meddwl a materion eraill yn peri pryder.  Eglurodd y dull rhagweithiol o feithrin cyswllt â’r disgyblion hyn er mwyn deall y rhesymau dros eu habsenoldeb a darparu cefnogaeth i ddisgyblion a’u teuluoedd fel y gallant ddychwelyd i’r ysgol.  

 

            Wrth sôn am absenoldebau heb eu hawdurdodi, rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am drothwyon Llywodraeth Cymru a’r lefelau yn ysgolion Sir y Fflint.  Rhagwelid y byddai’r sefyllfa’n gwella yn sgil dulliau gweithredu newydd y Gwasanaeth Lles Addysg o fis Medi ymlaen. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y dymunai ysgolion sicrhau fod cyn lleied â phosib o absenoldebau heb eu hawdurdodi o safbwynt diogelu ac eglurodd y systemau oedd ar waith mewn ysgolion, fel y Polisi Presenoldeb a oedd yn gofyn bod yr ysgol yn gwneud ymholiadau o ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb os nad oedd y rhieni wedi cysylltu â’r ysgol.Gallai Penaethiaid uwchgyfeirio absenoldebau heb eu hawdurdodi i’r Gwasanaeth Lles Addysg er mwyn cyflwyno rhybuddion talu cosb.  Soniodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu yngl?n â’r cyfarfodydd misol a gynhelid â’r Tîm Addysg Heblaw yn yr Ysgol a rhoes fraslun o’r Strategaeth Ymyrraeth Gynnar a oedd â’r nod o helpu disgyblion a theuluoedd, eu cynorthwyo a’u cefnogi er mwyn cael gwell canlyniadau.    

 

            Holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst  ...  view the full Cofnodion text for item 10