Mater - cyfarfodydd

Self-Evaluation of Education Services 2021-22

Cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 22)

22 Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2021-22 pdf icon PDF 100 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad gwasanaeth 21-22 a Chanlyniadau Dysgwr ar gyfer 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) drosolwg o Hunanwerthusiad Ebrill 2021 i Fawrth 2022.   Oherwydd bod Estyn wedi gorfod gohirio ei arolygiadau, dywedodd nad oedd dau adroddiad gwerthuso blaenorol y portffolio wedi dilyn fframwaith Arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol.   Roedd y portffolio bellach wedi dychwelyd at y strwythur hwnnw wrth i Arolygiadau ail-ddechrau.  Cynhaliwyd arolwg diwethaf yr Awdurdod yn 2019, ac roedd Estyn yn cynnig cwblhau’r gylched hon erbyn haf 2024.  Darparwyd gwybodaeth am ffocws yr hunanwerthusiad a oedd yn nodi cryfderau, meysydd i’w gwella a sut oedd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud.   Roedd fframwaith ardal Estyn, ynghyd â’r pedwar argymhelliad a wnaethpwyd, yn gynwysedig yn yr adroddiad ac roedd y portffolio yn parhau i wneud cynnydd yn erbyn yr argymhellion hyn er gwaethaf yr heriau yn sgil y pandemig.  Cafodd yr argymhellion eu mewnosod hefyd ym mlaenoriaethau Cynllun y Cyngor a chynllun busnes y portffolio. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie am wybodaeth data, eglurodd y Prif Swyddog oherwydd bod y penderfyniad wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru (LlC), nid oedd modd darparu data ar gyfer ysgolion unigol.  Cyfeiriodd at adran 1.01 yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol mewn ysgolion a dywedodd bod gan bob ysgol uwchradd gynlluniau cefnogi mewn lle i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau yr oedd pob ysgol wedi’u nodi.  Ym mhwynt 1.03 yr adroddiad, darparwyd gwybodaeth am bresenoldeb a gwaharddiadau, a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf.  

 

 

            Mewn ymateb i sylwadau pellach yngl?n â data, esboniodd y Prif Swyddog bod yr amgylchedd gweithio wedi newid ac nad oedd yn gallu darparu tablau data ar ganlyniadau arholiadau. Roedd y modelau ar gyfer asesu disgyblion wedi newid a oedd yn golygu ei bod yn anodd cymharu data.  Teimlai y byddai gweithdy i Aelodau yn fanteisiol er mwyn gallu darparu mwy o wybodaeth.  Roedd y Bwrdd Ansawdd Lleol yn cael y trafodaethau manwl hyn ac yn y cyfarfod nesaf byddai prosesau monitro perfformiad ysgolion yn cael eu trafod.  Byddai aelodau yn gallu ymuno â’r trafodaethau hyn a’r unig ddilysiad allanol oedd adroddiadau arolygiadau Estyn presennol.   Roedd y gwerthusiad hwn yn grynodeb o berfformiad y portffolio dros y flwyddyn honno.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at adran 1.05 yr adroddiad a oedd yn datgan mai’r rôl oedd herio ysgolion yn drwyadl a darparu cefnogaeth wedi’i thargedu.  Dywedodd efallai y byddai’n gliriach i’r Pwyllgor pe bai esboniad yn cael ei ddarparu yngl?n â sut y gwneir hyn.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn cyd-fynd ag adroddiad gan y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion a fyddai'n darparu gwybodaeth ar y broses uwchgyfeirio.  Yn y cyfarfodydd hynny cafodd sefyllfa bresennol pob ysgol ei thrafod yn fanwl gan dynnu sylw at faterion neu bryderon newydd gan roi cynllun mewn lle gan naill ai’r Awdurdod neu GwE i gefnogi’r ysgol honno. 

 

            Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion bod proses gefnogi glir a phroses uwchgyfeirio mewn lle mewn ysgolion.  Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor y llynedd yngl?n â sut yr edrychir  ...  view the full Cofnodion text for item 22