Mater - cyfarfodydd

Temporary Accommodation Audit Update

Cyfarfod: 11/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 40)

40 Archwiliad Digartrefedd Llety Dros Dro - Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Darparu adroddiad cynnydd ar y cynllun gweithredu ar gyfer gwella gwasanaeth yn dilyn archwiliad Llety Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal yr adroddiad, a gyflwynai’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Archwilio Llety Dros Dro. 

 

Cyflwynwyd yr archwiliad i’r Pwyllgor ym mis Chwefror 2022 a’r Pwyllgor Archwilio ym mis Mawrth 2022; roedd yr adroddiad archwilio yn y categori coch ac yn amlygu meysydd i’w gwella.  Lluniwyd cynllun gweithredu yn sgil yr archwiliad mewnol a byddai Tîm Archwilio’r Cyngor yn mynd ati i adolygu’r gwasanaeth er mwyn asesu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r cynllun gweithredu.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal y lluniwyd cynllun manwl ar gyfer gwella’r gwasanaeth a oedd yn cynnwys yr holl gamau gweithredu angenrheidiol i weithredu argymhellion yr archwiliad, gan ganolbwyntio’n fwy pendant ar egwyddorion craidd rheoli tai, cefnogi pobl mewn llety dros dro a darparu dewisiadau ar gyfer symud ymlaen yn unol ag egwyddorion Ailgartrefu Cyflym.

 

Roedd copi o gynllun gweithredu’r archwiliad fel y’i diwygiwyd ddiwedd mis Medi 2023 ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1.  Er y gwnaed cynnydd â phob cam gweithredu, bu heriau sylweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ac estynnwyd y terfyn amser ar gyfer rhai o’r camau.  Rhestrwyd y rhesymau am hynny yn y rhan o’r adroddiad a soniai am Adnoddau, ond fe gyflawnid yr holl gamau gweithredu erbyn mis Mawrth 2024.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal y cyfarfu’r uwch-reolwyr â Thîm Archwilio Mewnol y Cyngor yn ddiweddar ac y cynhelid profion yn fuan ar y camau a gyflawnwyd, gan gynnwys adolygu’r dystiolaeth o’u cyflawni.  Byddai’r Pwyllgor yn dal i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Credai’r Cynghorydd David Evans bod cysylltiad rhwng y problemau â phobl yn datgan eu bod yn ddigartref ac eiddo gwag, a fyddai dan sylw’n ddiweddarach yn y cyfarfod.  Soniodd am nifer yr aelwydydd o gymharu â nifer y tai gwag, gan gydnabod fod hynny’n symleiddio’r sefyllfa, a holodd ynghylch nifer y bobl oedd yn byw mewn llety dros dro a gafodd eu rhoi mewn eiddo gwag.  Amcangyfrifodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal fod yno tua 30/35 ohonynt, ond byddai’n rhoi’r union nifer i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.  Soniodd am y gwaith a gyflawnodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai wrth roi eiddo gwag at ddefnydd o’r newydd, a oedd wedi arwain at ganlyniadau da, ond roedd hi’n bwysig hefyd ystyried a oedd yr eiddo’n addas ar gyfer rhywun mewn llety dros dro.  Dywedodd fod 183 o’r bobl hynny’n sengl, bod nifer helaeth ohonynt yn iau na 55 oed a bod y mwyafrif o’r eiddo gwag yn dai gwarchod.  Byddai’r dewisiadau ar gyfer lleihau’r gwasgfeydd ar y gyllideb ar gyfer digartrefedd yn dod gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf ac yn cynnwys adolygu tai gwarchod, ond ni fyddai hynny’n lliniaru ar yr holl wasgfeydd.  Dymunai’r Cyngor greu cymunedau sefydlog a chynaliadwy lle’r oedd yr holl drigolion yn byw mewn tai addas ac yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau. 

 

Holodd y Cadeirydd a ellid cynnwys y t?r fflatiau yn y Fflint wrth adolygu tai gwarchod.  ...  view the full Cofnodion text for item 40