Mater - cyfarfodydd
NEWydd Business Plan 2022/23
Cyfarfod: 15/03/2022 - Cabinet (eitem 133)
Cynllun Busnes NEWydd 2022/23
Pwrpas: Cyflwyno Cynllun Busnes NEWydd Arlwyo a Glanhau Cyf 2022/23 i'w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (133/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Busnes NEWydd 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a amlinellodd y Cynllun Busnes NEWydd ar gyfer 2022/23.
Ym mis Hydref 2021, cytunodd y Cabinet ar Gytundeb Consesiwn Gwasanaethau estynedig gyda NEWydd o 1 Ebrill tan 31 Mawrth 2024. Yn unol â’r trefniadau, roedd gofyn i NEWydd gynhyrchu Cynllun Busnes Blynyddol i gynnwys cyllido a rhagolygon ariannol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y risgiau strategol yr oedd y busnes yn wynebu yn cael ei nodi, a bod y Cynllun Busnes 2022/23 gan gynnwys lliniaru’r risgiau a nodwyd, yn cael ei ardystio, a
(b) Bod y Cabinet yn parhau i gefnogi a chymeradwyo’r dull gyfredol ynghylch pwerau dirprwyedig mewn perthynas â gosod pris prydau ysgol gynradd (dirprwywyd i’r Aelod Cabinet a Chyfarwyddwr Rheoli).