Mater - cyfarfodydd
School Admission Arrangements 2023/24
Cyfarfod: 15/03/2022 - Cabinet (eitem 130)
130 Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2023/24 PDF 88 KB
Pwrpas: Cynghori ar ganlyniad ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer 2023/24, ac i argymell cymeradwyaeth.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Admission Arrangements 2023/24, eitem 130 PDF 119 KB
- Appendix 2 - Primary Admission Numbers, eitem 130 PDF 67 KB
- Appendix 3 - Secondary Admission Numbers, eitem 130 PDF 46 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn cynghori ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer 2023/24 i’w cymeradwyo.
Yn unol â Chod Derbyniadau Ysgol, roedd gofyn i’r awdurdod lleol gyflawni ymarfer ymgynghori statudol ar ei drefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Mae’n rhaid cwblhau’r ymgynghoriad erbyn 1 Mawrth a rhaid i drefniadau derbyn gael eu bennu erbyn 15 Ebrill bob blwyddyn. Roedd ymgynghorai statudol yn cynnwys pob ysgol yn yr ardal, yr awdurdodau esgobaethol a’r awdurdodau cyfagos.
Roedd y trefniadau derbyn cyfredol wedi bod mewn lle ers 2003 a roedd y mwyafrif o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu bodloni. Amlinellwyd y nifer o apeliadau derbyn yn y blynyddoedd diweddar yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd y broses ymgynghori rhwng 05.01.22 a 04.02.22 ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau. Nid oedd unrhyw newid arfaethedig i drefniadau derbyn.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2023/24.