Mater - cyfarfodydd

Overview of Ethical Complaints

Cyfarfod: 06/06/2022 - Pwyllgor Safonau (eitem 6)

6 Trosolwg o Gwynion Moesegol pdf icon PDF 85 KB

Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd ei fod yn cynnwys crynodeb o’r cwynion moesegol a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn honni bod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri.  Yn unol â phenderfyniad blaenorol y Pwyllgor roedd yr adroddiad yn gwahaniaethu rhwng cwynion a wnaed yn erbyn gwahanol Gynghorau a Chynghorwyr ond nid yn enwi neb.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi syniad o’r nifer o gwynion a wnaed a’u math, ynghyd â dyfarniad yr Ombwdsmon ymhob achos.  Derbyniwyd saith o gwynion ers yr adroddiad diwethaf fis Tachwedd 2021.  Gwnaed dyfarniad ynghylch pump o’r cwynion hynny ac ni ymchwiliodd yr Ombwdsmon i’run ohonynt gan nad oeddent yn bodloni’r prawf yng ngham 2.  Roedd dwy o’r cwynion yn rhai diweddar ac roedd yr Ombwdsmon wrthi’n penderfynu a fyddai’n ymchwilio iddynt ai peidio.  Roedd a wnelo un o’r cwynion â cham-drin clerc mewn cyfarfod cyhoeddus ac roedd honno dan ymchwiliad.

 

Cyfryngau cymdeithasol oedd wrth wraidd y rhan helaeth o’r cwynion, ac roedd a wnelo pedair o’r saith â sylwadau a wnaed ar-lein.  Roedd y Pwyllgor yn gyfarwydd â’r trafferthion a gyfyd wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â’r trefniadau ar gyfer diogelu rhyddid barn wleidyddol.  Nid oedd y cod ond diogelu ychydig rhag ymddygiad gwael neu heriol.  Yn yr hyfforddiant sefydlu anogid Cynghorwyr i ganiatáu i Gynghorwyr eraill fod â barn wahanol iddynt hwy heb gega arnynt, lladd arnynt na’u gwawdio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Julia Hughes, eglurodd y Swyddog Monitro y cyflëwyd pwysigrwydd hyn i Aelodau newydd yn y sesiynau hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, a ddarperir hefyd i aelodau Cynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi nifer y cwynion a’u math.