Mater - cyfarfodydd
Temporary Accommodation Homelessness Audit 2021 Findings Report
Cyfarfod: 15/02/2022 - Cabinet (eitem 120)
120 Canfyddiadau Archwilio Mewnol Digartrefedd Llety Dros Dro 2021 PDF 101 KB
Pwrpas: Rhannu gyda’r Cabinet ar gyfer sylwadau ar y canfyddiadau yn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Temporary Accommodation Homelessness Audit 2021 Findings Report, eitem 120 PDF 598 KB
- Enc. 2 for Temporary Accommodation Homelessness Audit 2021 Findings Report, eitem 120 PDF 61 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Canfyddiadau Archwilio Mewnol Digartrefedd Llety Dros Dro 2021
Cofnodion:
Roedd y Cynghorydd Hughes yn cyflwyno’r adroddiad oedd yn cadarnhau canlyniad Archwiliad diweddar o reoli llety dros dro o fewn Sir y Fflint. Roedd yr archwiliad wedi amlygu nifer o feysydd ar gyfer gwella ac yn cael ei gynnwys fel Adroddiad Archwilio Coch.
Roedd yr Adroddiad Archwilio ar fin cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 14 Mawrth 2022. Roedd yr adroddiad yn rhoi cefndir i’r cais ar gyfer yr archwiliad, prif ganfyddiadau’r archwiliad a’r broses gwella gwasanaeth sy’n ofynnol i fynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod llety dros dro yn “dai dros dro” a ddarparwyd i bobl oedd yn ddigartref (pobl sengl/cyplau/teuluoedd) oedd yn unol â dyletswyddau o dan Deddf Tai Cymru (2014) gan y Cyngor. Roedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy’r Tîm Digartrefedd.
Roedd y portffolio presennol o eiddo yn gymysgedd o dai amlfeddiannaeth (HMO), fflatiau hunangynhwysol a thai oedd yn cael eu prydlesu gan landlordiaid preifat, ynghyd â nifer fach o eiddo HRA y Cyngor.
Roedd y galw am Lety Dros Dro a Llety Brys wedi tyfu’n sylweddol o ganlyniad i’r pandemig Covid-19 gyda Llywodraeth Cymru yn gofyn i holl bobl ddigartref dderbyn llety drwy’r gyfarwyddeb “pawb i mewn”. Cyn Covid-19, roedd y portffolio yn cynnwys nifer uchel o eiddo gwag, ond ers Covid-19 a’r dyletswyddau ychwanegol i gartrefu mwy o bobl, roedd eiddo ychwanegol drwy HRA wedi ei sicrhau i fodloni’r galw cynyddol. Roedd y gwasanaeth hefyd yn dibynnu ar lety gwely a brecwast. Roedd y galw yn debyg o barhau i dyfu wrth i’r pandemig ddod i ben a’r cyfnod adfer ddechrau.
PENDERFYNWYD:
Bod unrhyw sylwadau yn cael eu darparu cyn i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 14 Mawrth 2022.