Mater - cyfarfodydd
Public Sector Internal Audit Standards
Cyfarfod: 14/03/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 62)
62 Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus PDF 90 KB
Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol mewn perthynas â chydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Compliance checklist, eitem 62 PDF 405 KB
- Enc. 2 - QAIP actions, eitem 62 PDF 82 KB
- Enc. 3 - QAIP components, eitem 62 PDF 78 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Roedd hyn, ynghyd ag asesiad allanol a gyflawnwyd ar gyfer 2016/17 yn dynodi bod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â’r safonau ymhob maes arwyddocaol ac yn gweithredu’n annibynnol ac yn wrthrychol. Roedd yr asesiad allanol nesaf fod i gael ei gynnal ym mis Mai 2022 trwy broses adolygiad gan gymheiriaid. Cafwyd cadarnhad fod pob cam gweithredu yn deillio o’r asesiad blaenorol wedi cael ei weithredu.
Roedd Sally Ellis yn croesawu gweithredoedd datblygu gweithlu amrywiol i wella gwytnwch y gwasanaeth. Gan ymateb i gwestiynau, rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad byr am ei rolau gyda Profi, Olrhain, Diogelu, Perfformiad a Rheoli Risg a Dosbarthu Canolog a rhannodd fanylion gwaith archwilio a gomisiynwyd oedd i ddod ar Ymosodiadau Meddalwedd Wystlo ac adolygiad o drefniadau llywodraethu TGCh. Rhoddodd sicrwydd am fynediad uniongyrchol parhaus i’r Prif Weithredwr gyda thrafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal ar gyflwyno'r Cynllun Archwilio. Cafodd ei sylwadau eu cymeradwyo gan y Cadeirydd.
Gan ymateb i ymholiad, cafodd Allan Rainford wybod bod adborth wedi'i gasglu mewn holiaduron i gleientiaid ar ôl yr archwiliad. Roedd perfformiad wedi’i gynnwys yn Adroddiadau Cynnydd Archwilio Mewnol a’r Adroddiad Blynyddol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Allan Rainford a Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.