Mater - cyfarfodydd

External Regulation Assurance

Cyfarfod: 14/03/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 59)

59 Sicrwydd Rheoleiddio Allanol pdf icon PDF 91 KB

Cefnogi’r crynodeb o’r holl adroddiadau rheoleiddio allanol a dderbyniwyd yn ystod 2020/21 ynghyd ag ymatebion y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol yr adroddiad cryno i roi sicrwydd bod yr adroddiadau gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol yn 2021/22 wedi cael eu hystyried yn unol â’r protocol adrodd mewnol cytunedig. Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gan ddangos bod camau’n cael eu cymryd i ymateb i argymhellion. Er nad oedd gofyn am ymateb lleol i astudiaethau cenedlaethol Archwilio Cymru, gwelwyd dull y Cyngor o asesu yn erbyn gwaith lleol fel arfer dda. Tynnwyd sylw at dri adroddiad oedd wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfodydd i ddod.

 

Ceisiodd Sally Ellis eglurder ar y broses adrodd er mwyn i’r Pwyllgor gyflawni ei rôl a sicrhau bod gweithredoedd yn cael eu gweithredu a’u monitro.

 

Disgrifiodd y Prif Weithredwr y broses gadarn lle mae gweithredoedd yn cael eu monitro o fewn portffolios neu drwy adolygiadau pellach gan Archwilio Mewnol, ac yn y pendraw yn cael eu hadrodd yn ôl i Drosolwg a Chraffu a’r Pwyllgor hwn.

 

Awgrymodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y gallai gweithredoedd  allanol a gwblhawyd, yn ogystal â gweithredoedd mewnol gael eu hadlewyrchu yn yr Adroddiad Blynyddol ac y gallai’r sicrwydd yma gael ei gynnwys yn y broses Datganiad Llywodraethu Blynyddol.  Fe awgrymodd hefyd fod yr adroddiad Sicrwydd Rheoleiddio Allanol blynyddol yn cynnwys atodiad yn dangos statws pob gweithred yn ystod y cyfnod.

 

Cyfeiriodd Allan Rainford at y cynigion ar gyfer gwella (P1) yn adroddiad Archwilio Cymru ar incwm rhenti a gofynnodd am oblygiadau mân newidiadau a wnaed i ymateb y Cyngor.   Cytunodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol i ymateb ar wahân i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Allan Rainford.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd dros ymateb y Cyngor i adroddiadau rheoleiddio allanol.