Mater - cyfarfodydd

Impact of the pandemic and other factors on transport services and operating costs

Cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 67)

67 Effaith y pandemig a ffactorau eraill ar wasanaethau cludiant a chostau gweithredu pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn dilyn argymhelliad yng nghyfarfod y Pwyllgor Adfer a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2021, a amlygodd fod costau gweithredu trafnidiaeth yn cynyddu tra bod nifer y gweithredwyr trafnidiaeth sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau yn lleihau. Mae’r adroddiad yn amlinellu sut mae gwasanaethau bws cyhoeddus wedi eu hariannu yn ystod y pandemig ynghyd ag effaith ar weithwyr a lefelau gwasanaeth, yn ogystal â datblygiadau yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y Pwyllgor Adfer, ym mis Tachwedd, wedi argymell cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor. Mae’r pandemig wedi cael effaith fawr ar wasanaethau cludiant cyhoeddus. Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg o’r hyn a ddigwyddodd, a’r mesurau lliniaru a roddwyd ar waith i gefnogi gweithredwyr mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

 

            Eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig fod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar gludiant ysgol a gwasanaethau cludiant cyhoeddus ar draws y wlad. Roedd colli teithwyr ynghyd â chadw pellter cymdeithasol a chostau COVID wedi ychwanegu at y pwysau sydd ar y gwasanaethau. Roedd yn rhaid i weithredwyr atal gwasanaethau a bu newidiadau i’r canllawiau, ond fe ddarparwyd cefnogaeth i liniaru effaith y gwasanaethau a ataliwyd. Cyflwynodd Lywodraeth Cymru’r Gronfa Galedi ac mae trosolwg o hon, a’r ffioedd consesiwn yr oedd yn rhaid i deithwyr eu talu, wedi’u darparu. Cyflwynwyd y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau fis Gorffennaf 2020, gan barhau i gadw incwm cwmnïau ar lefelau hanesyddol. Sir y Fflint oedd yr awdurdod cynnal yng ngogledd Cymru, gan ddyrannu a phrosesu’r cyllid gyda chefnogaeth swyddogion rhanbarthol. Roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i weithredwyr gyfrannu a gwella rhwydweithiau rhanbarthol, a oedd yn rhan o’r cytundeb ar gyfer Sir y Fflint ac ar draws y gogledd. Eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig fod y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau 1.5 wedi’i gyflwyno i helpu gweithredwyr i ddychwelyd i gynnig y gwasanaeth llawn, yn enwedig o ystyried mesurau cadw pellter cymdeithasol pan oedd angen dau fws er mwyn cludo plant i’r ysgol. Darparwyd cyllid y cynllun brys i sicrhau eu bod yn gweithredu. Bydd cytundeb ariannu hirdymor Cynllun Brys 2 gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn para tan fis Gorffennaf 2022, oni bai bod amodau’r farchnad wedi gwella’n sylweddol ac asesiad o’r cyllid sydd ei angen wedi’i gynnal yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Mae gweithredwyr bysiau yn ei chael hi’n fwyfwy anodd i gynnal gwasanaethau gyda nifer y teithwyr wedi lleihau yn ystod y deunaw mis diwethaf. Ym mis Gorffennaf 2020 cafodd gwasanaeth 5 o’r Wyddgrug i Ellesmere Port, oherwydd diffyg refeniw, ei drosglwyddo’n ôl gan y gweithredwr. Gan fod y gwasanaeth hwn yn rhan o rwydwaith craidd y Cyngor cafodd y contract ei roi ar dendr ac roedd y cynigion a ddaeth i law deirgwaith yn fwy na phris y darparwr blaenorol. Defnyddiwyd cyllid y cynllun brys i gwrdd â’r cynnydd ond roedd pwysau o £100,000 ar y gyllideb oherwydd hyn. Pan gaiff llwybrau eu cynnig ar dendr mae gan weithredwyr ddau ddewis, tendro ar gostau net neu dendro ar gostau gros, ac eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig y gwahaniaeth. Mae’r rhan fwyaf o gontractwyr yn defnyddio’r broses contract gros, sy’n rhoi’r risg yn ôl ar y Cyngor o ran refeniw prisiau. Mae gweithredwyr hefyd wedi dweud bod yna gynnydd aruthrol yn eu costau gweithredu – tanwydd/yswiriant/cyflogau a phrinder darnau i gerbydau, colli gyrwyr (HGV a rolau eraill) a hyfforddi gyrwyr, sydd hefyd wedi’i effeithio.  ...  view the full Cofnodion text for item 67