Mater - cyfarfodydd

Grant Funding Application to Promote Repair and Reuse Initiatives

Cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 65)

65 Cais am Arian Grant i Hybu Mentrau Atgyweirio ac Ailddefnyddio pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Cynghori’r Pwyllgor Craffu o’r bwriad i gyflwyno cais am grant i ddarparu prosiect peilot i weithredu mentrau atgyweirio ac ailddefnyddio ar draws Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad amlinellodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y cynnig ar gyfer y cais ariannol ar y cyd ar gyfer prosiect ailddefnyddio gyda Refurbs Sir y Fflint, sydd wedi’i gyflwyno i’r Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Gan nad yw’r cyllid hwn ar gael i’r Cyngor darparwyd cymorth i helpu Refurbs Sir y Fflint i gyflwyno cais. Roedd hyn yn dod o dan Lleihau Gwastraff a Dargyfeirio Gwastraff o Safleoedd Tirlenwi.

 

            Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod hyn wedi derbyn sylw yn 2019 ac, yn dilyn trafodaethau gyda thrigolion a sylwadau mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ei fod yn cael ei adolygu. Roedd yna lawer o eitemau y gellir eu hailddefnyddio a’u hailgylchu yn cael eu gwaredu. Cysylltwyd ag elusennau i ddod i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i siarad gyda phreswylwyr er mwyn atal eitemau o ansawdd rhag cael eu taflu. Roedd llawer o elusennau yn awyddus i gymryd rhan ond yna fe darodd y pandemig a rhoddwyd stop ar y gwaith. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal unwaith eto gyda’r elusennau i fwrw ymlaen â hyn ac mae cynigion ar gyfer y cynllun peilot, gyda Refurbs yn y lle cyntaf, yn cael eu datblygu. Cyfeiriodd at 1.05 yn yr adroddiad sy’n manylu ar y cynigion a’r trefniadau ar gyfer y cynhwysydd storio. Byddai’r eitemau hyn yn cael eu casglu o bob safle a’u danfon i ganolfan sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor. Byddai’r eitemau wedyn yn cael eu didoli i gategorïau fel teganau a bric-a-brac ac ati i elusennau eu gwerthu. Byddai llyfrgell hefyd yn cael ei chreu yn y ganolfan ar gyfer deunyddiau wedi’u recordio a llyfrau. Unwaith y mae popeth yn ei le, rhagwelir y byddai eitemau yn cael eu danfon yn uniongyrchol i’r ganolfan yn hytrach na’r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae yna hefyd gynigion ar gyfer casgliadau wrth ymyl y ffordd, ar gyfer tecstilau yn y lle cyntaf. Os llwyddir i gael y cyllid byddai ymgyrch hysbysebu yn cael ei chynnal gyda gwirfoddolwyr Refurbs ac elusennau eraill sy’n gweithio yn y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd a hyrwyddo’r cynllun. Darparodd drosolwg o’r eitemau y byddai’r cynllun peilot yn edrych arnynt.

 

            Gan gyfeirio at y cyllid grant cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod yna gystadleuaeth frwd ac mai dim ond un ymgeisydd llwyddiannus sydd yna bob blwyddyn. Mae’r cynnig yn un beiddgar ac uchelgeisiol iawn, er mwyn gwneud yn si?r ei fod yn sefyll allan. Os yw’n aflwyddiannus, bydd y gwaith i ganfod cyllid ychwanegol yn parhau. Os yn llwyddiannus, byddai’r prosiect yn cael ei gynnal o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2023, yn dibynnu ar y cyllid. Mae isadeiledd, adeiladau a cherbydau wedi derbyn sylw ond y prif ffocws yw hyrwyddo hyn a chodi ymwybyddiaeth. Mae yna fuddion i’r elusennau a byddai’r cyhoedd yn llai tebygol o daflu eitemau defnyddiol. Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y byddai pobl yn llai tebygol o waredu’r eitemau  ...  view the full Cofnodion text for item 65