Mater - cyfarfodydd
Accessible Dropped Kerb Crossings for Pedestrians
Cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 68)
68 Croesfannau Cwrb Isel hygyrch i Gerddwyr PDF 138 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno mewn ymateb i gais gan Bwyllgor Craffu’r Amgylchedd a’r Economi ym mis Tachwedd 2021. Mae’r adroddiad yn nodi sut rydym yn delio gyda darpariaeth cwrb isel i gerddwyr o fewn y briffordd dan sylw mewn perthynas â mannau croesi heb eu rheoli, oherwydd nad oes yna gyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer y ddarpariaeth hon. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r broses ar gyfer derbyn ceisiadau, nodi safleoedd, cydnabod yr ateb priodol, defnyddio’r adnoddau sydd ar gael ac mae’n nodi dulliau cyllid posibl ar gyfer cyrbiau isel hygyrch i gerddwyr.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Appendix M Active Travel Guidance, eitem 68 PDF 808 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Croesfannau Cwrb Isel hygyrch i Gerddwyr
Cofnodion:
Cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn dilyn cais gan y Pwyllgor. Mae’n darparu gwybodaeth am geisiadau am groesfannau heb eu rheoli a darparu palmentydd botymog.
Cyfeiriodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd at y newidiadau diweddar yn Rheolau’r Ffordd Fawr, sydd wedi’u nodi dan 1.02 yn yr adroddiad. Amlinellodd resymau a manteision gosod croesfannau gyda chyrbau isel i helpu cerddwyr i groesi’r ffordd fawr yn ddiogel a’r safonau sydd yn rhaid eu cyrraedd. Mae Teithio Llesol yn edrych ar ystyriaethau awdurdodau lleol, ond mae darparu’r rhwydwaith integredig llawn yn mynd i gymryd blynyddoedd. Ystyrir croesfannau gyda chyrbau isel pan wneir gwelliannau i briffyrdd neu waith cynnal a chadw, ac mae manylion y broses o wneud cais ar gael yn yr adroddiad. Nid oes cyllid refeniw ar gyfer y ddarpariaeth hon ond fe archwilir cyfleoedd am gyllid grant. Cyfeiriodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd at y broses flaenoriaethu, sy’n dryloyw, a’r matrics sgorio a ddisgrifir yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd George Hardcastle am ddyrannu cyllid, eglurodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd fod ceisiadau am gyrbau isel yn cael eu hariannu drwy’r grant Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllid craidd Teithio Llesol yn darparu hyblygrwydd i’r Cyngor fynd i’r afael â llwybrau sydd wedi’u nodi ar y Map Teithio Llesol Integredig a’r rhwydwaith. Hefyd, os gwneir cynlluniau cyllid grant ar gyfer gwelliannau neu waith cynnal a chadw, yna bydd y Cyngor yn edrych ar unrhyw gais a wneir am groesfannau gyda chyrbau isel yn yr ardaloedd hynny a bydd y rheiny’n cael eu darparu ar yr un pryd.
Cyfeiriodd Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio at 1.07 ar dudalen 135 sy’n nodi ei bod yn drosedd rhwystro neu barcio ar gyrbau isel i gerddwyr. Soniodd am achosion o bobl yn parcio ar hyd croesfannau isel yn ei ward a gofynnodd pwy sy’n gyfrifol am orfodi hyn. Mewn ymateb, eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y tîm gorfodi yn gallu gweithredu os yw’r bobl wedi parcio ar linellau. Os nad oes llinellau, yna byddai’n rhaid galw’r heddlu gan mai rhwystr yw hynny. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod hyn yn aneglur mewn ardaloedd preswyl ac nad oes gan y Cyngor bwerau oni bai ei fod mewn ardal orfodi benodol a’r tîm gorfodi yn gallu cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig. Byddai angen deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i orfodi ymhob ardal lle ceir rhwystr ar groesfannau gyda chyrbau isel. Cadarnhaodd fod rhai Rhybuddion Cosb Benodedig wedi’u cyflwyno ond mae’n anodd gan fod yn rhaid i swyddogion fod yn bresennol yno ar y pryd. Gofynnodd i’r Aelodau nodi ardaloedd er mwyn iddi eu rhannu â’r tîm gorfodi er mwyn iddynt gynnal patrôl yn yr ardaloedd problemus. Ychwanegodd Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio fod angen sgwrs gadarn gyda Llywodraeth Cymru a’r Heddlu gan nad yw hyn yn cael ei orfodi ac yn anaddas i’r diben os yw pobl yn parcio wrth eu hymyl yn anystyriol.
Cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ... view the full Cofnodion text for item 68