Mater - cyfarfodydd
Investment and Funding Update
Cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 41)
41 Diweddariad ar fuddsoddi ac ariannu PDF 155 KB
Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - 2021-22 Business Plan update, eitem 41 PDF 146 KB
- Enc. 2 - GAD S.13 Report - CPF KPIs, eitem 41 PDF 599 KB
- Enc. 3 - GAD S.13 Report - Summary of Outcomes, eitem 41 PDF 753 KB
- Enc. 4 - Delegated Responsibilities, eitem 41 PDF 113 KB
- Enc. 5 - Risk dashboard and register, eitem 41 PDF 115 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad ar fuddsoddi ac ariannu
Cofnodion:
Cyflwynodd Mrs Fielder y papur ac egluro ers cyflwyno pecyn rhaglen y Pwyllgor, roedd DLUHC wedi cyhoeddi Papur Gwyn Codi’r Gwastad, a oedd yn amlinellu’r disgwyliadau arfaethedig bod gan Gronfeydd CPLlL hyd at 5% o asedau wedi’u dyrannu i brosiectau, sy’n cefnogi ardaloedd lleol. Eglurodd Mrs Fielder nad oedd hyn yn newydd, gan fod Cronfa Bensiynau Clwyd eisoes wedi cefnogi’r ardaloedd lleol ers blynyddoedd gyda dros £132 miliwn o ymrwymiadau wedi’u cytuno, sydd eisoes dros y targed o 5%. Yn anffodus, cadarnhaodd Mrs Fielder ei bod yn bosib na fyddai’r camau yr oedd y Gronfa wedi’u cymryd yn flaenorol wedi’u cynnwys yn y targed o 5% ond bod angen aros am yr ymgynghoriad er mwyn deall sut fyddai hyn yn cael ei weithredu.
Ym mharagraff 1.05, cadarnhaodd Mrs Fielder bod y gr?p pwyso wedi symud ymlaen o danwydd ffosil ac yn ystyried cwmnïau da byw yn awr.
Fel y soniwyd yn y cyfarfod diwethaf, roedd Swyddogion ac ymgynghorwyr y Gronfa wedi bod yn ymchwilio mwy o gyfleoedd yn y farchnad breifat ac roedd hyn ar y gweill gyda mwy o ymrwymiadau wedi’u hamlinellu yn y tabl ym mharagraff 1.12. Roedd hyn yn cynnwys Capital Dynamics ac roedd mwy o fanylion ar hyn yn yr eitem nesaf ar yr agenda.
O ran y cysylltiad gyda chwmnïau da byw diwydiannol ym mharagraff 1.05, eglurodd y Cynghorydd Bateman ei fod wedi derbyn gohebiaeth gan etholwr oedd wedi mynegi pryderon am hyn. Holodd a oedd Mrs Fielder yn fodlon ateb y llythyr yr oedd wedi’i dderbyn. Cadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’n ateb y cais.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi’r diweddariad.