Mater - cyfarfodydd
Investment Strategy Statement
Cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 39)
39 Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Arfaethedig PDF 96 KB
Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda Datganiad Strategaeth Fuddsoddi diwygiedig er mwyn ei nodi, gwneud sylwadau a chymeradwyo yn dilyn ymgynghoriad gyda Chyflogwyr.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Proposed Investment Strategy Statement, eitem 39 PDF 1 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Arfaethedig
Cofnodion:
Yn y cyfarfod Pwyllgor blaenorol ym mis Tachwedd 2021, cytunodd yr aelodau y dylid diweddaru Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi (“ISS”) i adlewyrchu’r ymrwymiad i osod targedau datgarboneiddio ar gyfer y Gronfa. Eglurodd Mrs Fielder y byddai adolygiad manylach o’r ISS yn ddiweddarach eleni. Fel sy’n ofynnol ac fel y cytunwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor, cytunodd y Gronfa i drafod y mater gyda chyflogwyr ac fe gadarnhaodd Mrs Fielder na chafwyd unrhyw ymatebion negyddol o ganlyniad i’r ymgynghoriad. Roedd tudalen 100 a 102 Datganiad Arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi yn tynnu sylw at y prif feysydd sydd wedi’u diweddaru.
Mynegodd Mr Hibbert ei safbwynt, er ei fod yn cytuno gyda chynnwys yr ISS diwygiedig, nid oedd yn gallu cytuno â’r argymhelliad. Y rheswm dros hyn oedd nad oedd yn credu bod digon o wybodaeth gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru (“WPP”) i dystiolaethu dyhead y Gronfa i fod yn ‘Fuddsoddwyr Cyfrifol’, ‘Buddsoddwyr ag Effaith’ nac yn ‘Stiwardiaid’ effeithiol o holl arian y Gronfa oherwydd methiant WPP i ddarparu adroddiad ar eu gweithgareddau benthyca stoc i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’n codi’r mater yng nghyfarfod nesaf is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol WPP.
O ran y Cytundeb Benthyca Stoc, derbyniodd Mr Hibbert bod 5% o stoc yn cael ei gadw ar gyfer pleidleisio ond roedd yn dymuno deall effaith benthyca stoc ar werth y stoc dros y cyfnod benthyca. Roedd hefyd eisiau deall yr amser a gymerir i stoc adennill y gwerth cyn unrhyw fenthyca. Byddai hyn yn ei gynorthwyo i benderfynu a yw’r ffioedd benthyca a delir i’r Gronfa yn darparu’r gwerth ychwanegol fel y disgwylir.
Gofynnodd Mr Hibbert i’r Pwyllgor ofyn yn ffurfiol am weithgarwch benthyca stoc hyd yma gan WPP ac felly roedd yn anghytuno â’r argymhelliad.
Yn ogystal â hynny, nododd Mr Hibbert wall gramadegol yn yr ail baragraff ar dudalen 93, ac fe gadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’n cael ei newid cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol.
PENDERFYNWYD:
Ystyriodd, nododd a chymeradwyodd y Pwyllgor Ddatganiad Arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi.