Mater - cyfarfodydd
Funding, Flight-Path and Risk Management Framework
Cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 38)
38 Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid PDF 138 KB
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan gan gynnwys protocol dechrau dileu risg lefel cyllido.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Monthly monitoring, eitem 38 PDF 611 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid
Cofnodion:
Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, cadarnhaodd Mr Middleman bod gan y Gronfa lefel cyllid o 102% ar ddiwedd mis Rhagfyr, sy’n sefyllfa gref o hyd. Roedd y lefel cyllid ar ddiwedd mis Rhagfyr yn is nag yn flaenorol yn bennaf oherwydd ffactorau strwythurol fel profiad aelodaeth ac adferiad McCloud (wedi’u cyfuno roedd y rhain yn rhoi oddeutu 3% o ostyngiad yn y lefel cyllid).
Roedd Mr Middleman yn credu mai’r risg mwyaf ar gyfer y Gronfa oedd parhad chwyddiant eithaf uchel gan fod rhwymedigaethau’r Gronfa yn gysylltiedig yn uniongyrchol â chwyddiant, felly byddai chwyddiant sy’n uwch na’r disgwyl yn golygu cynnydd mewn costau, oni bai bod arenillion o asedau a ddisgwylir yn cynyddu i ddigolledu hynny. Cadarnhaodd y byddai hyn yn fater i’w ystyried yn barhaus mewn Pwyllgorau yn y dyfodol wrth i’r Gronfa gyrraedd y dyddiad prisio actiwaraidd ar 31 Mawrth 2022. Risg chwyddiant oedd y risg mwyaf sylweddol ar gyfer y Gronfa gyda chyllidebau cyflogwyr a chyfraniadau yn bwynt trafod allweddol.
Nodwyd addasiad i’r terfynau cyfatebol ym mharagraff 1.11 ynghyd â’r cynllun i addasu’r lefel cyfatebol a ddelir yn yr asedau arenillion uchel yn y gronfa gyfatebol cyn ei fuddsoddi yn y marchnadoedd preifat.
Atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor o’r trafodaethau yn y cyfarfodydd blaenorol yngl?n â gosod sbardun lefel cyllido o 110%. Ers y drafodaeth honno, rhoddwyd ystyriaeth i lywodraethu’r broses i newid y strategaeth pe rhagorir ar y sbardun. Eglurodd Mr Latham bod yr adroddiad yn cynnig bod y Pwyllgor yn cytuno i ffurfioli sbardun lefel cyllido o 110% ac roedd yn cynnwys proses arfaethedig, a oedd yn gosod y terfynau amser a’r cerrig milltir pe bai’r sbardun yn cael ei ddiwallu. Roedd y broses arfaethedig yn cynnwys cyfathrebu gyda’r Pwyllgor i egluro’r newidiadau arfaethedig i gael eu sylwadau. Yn y pendraw, gellir trefnu cyfarfod Pwyllgor arbennig i drafod y newidiadau pe bai unrhyw bryderon o ran lleihau risg yn cael eu codi yn adborth y Pwyllgor.
Cymeradwyodd y Pwyllgor y sbardun lefel cyllido o 110% a chytuno ar broses lleihau risg sbardun lefel cyllido.
PENDERFYNWYD:
(a) Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf o ran Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid; a
(b) Cytunodd y Pwyllgor ar y sbardun lefel cyllido o 110% a chytuno ar broses lleihau risg sbardun lefel cyllido.