Mater - cyfarfodydd

Economic and Market Update and Investment Strategy and Manager Summary

Cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 37)

37 Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad ac Adroddiad Monitro Perfformiad pdf icon PDF 105 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd Mr Harkin bod Mr Buckland wedi gadael Mercer i weithio ar gyfer Cronfa CPLlL arall.  Cyflwynodd Mr Harkin Mr Dickson a oedd eisoes wedi bod yn gweithio i’r Gronfa ers peth amser.

 

Roedd tudalen 22 yn amlinellu gwybodaeth ddiweddaraf y farchnad dros Ch4 2021 a’r chwarter cadarnhaol ar gyfer rhan fwyaf o’r asedau twf, er y nodwyd bod ecwiti’r marchnadoedd sy’n datblygu yn isel.

 

Eglurodd Mr Harkin bod y pryderon cychwynnol o ran amrywiolyn diweddaraf COVID-19 wedi’u diddymu’n gyflym gan fod y llywodraeth a’r banciau canolog wedi ymateb yn gyflym.  Roedd y camau hyn wedi cefnogi cynnydd mewn prisiau asedau yn ystod 2021.  Nododd bod anwadalrwydd marchnadoedd wedi cynyddu’n sylweddol ers tro’r flwyddyn a bod perygl geo-wleidyddol wedi cyfrannu at hynny.

 

            Ar hyn o bryd, roedd economïau ledled y byd yn gweld lefelau sylweddol o chwyddiant, yn enwedig yn yr UDA a’r DU.  Roedd Cronfeydd wrth Gefn Ffederal yr UDA a Banc Lloegr wedi dechrau codi cyfraddau llog byr dymor mewn ymateb i hynny.   Roedd yn credu y byddai’r cynnydd mewn cyfraddau llog yn gynt na’r hyn a ddisgwyliwyd yn flaenorol ond byddai Mercer a’r Gronfa yn cynnal sgwrs barhaus ar y mater.

 

            Fel y nodwyd ar dudalen 43, cadarnhaodd Mr Dickson bod perfformiad y Gronfa yn 4.7% dros Ch4 2021, a oedd yn rhagori ar y meincnod o 4.2%.  Roedd y ffigwr 3 blynedd yn adlewyrchu’r perfformiad cyn y pandemig, yn ystod y pandemig a hyd heddiw.  Y ffigwr oedd 11.9% y flwyddyn, sydd hefyd yn uwch na’r meincnod o 10.4%.  Roedd y ddau darged ar gyfer cyfraddau disgownt actiwaraidd o 3.8% a 4.3% yn nodi’r arenillion yr oedd y Gronfa eu hangen er mwyn aros yn llonydd, ac felly roedd y ffigwr 3 blynedd o 11.9% yn sylweddol uwch na’r ddau darged actiwaraidd ac roedd y perfformiad gwell wedi cyfrannu at welliant yn y lefelau cyllid.

 

Nododd Mr Dickson bod tudalen 47 yn nodi bod asedau Byd-eang WPP ac Ecwiti ESG yn perfformio’n dda a bod yr arenillion cadarnhaol eraill o Gyfanswm Dyraniad Tactegol.  Roedd marchnadoedd preifat hefyd wedi cynhyrchu arenillion cryf o 22.4% dros y flwyddyn a dychwelodd y Fframwaith Rheoli Arian Parod a Risg 33.6% dros yr un cyfnod.

 

Holodd y Cadeirydd am y rhagolygon o ran cynnydd mewn cyfraddau llog yn y dyfodol yn yr UDA.  Nododd Mr Harkin bod y farchnad yn disgwyl 4 i 5 cynnydd mewn cyfraddau o gronfeydd wrth gefn Ffederal yr UDA dros y flwyddyn, ac oherwydd hyn, roedd hyn eisoes wedi’i brisio gan y farchnad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi’r diweddariad.