Mater - cyfarfodydd
Minimum Revenue Provision - 2022/23 Policy
Cyfarfod: 15/02/2022 - Cabinet (eitem 110)
110 Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2022/23 PDF 131 KB
Pwrpas: Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion. Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd fod rhaid i awdurdodau lleol osod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mhob blwyddyn ariannol. Roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol neilltuo rhywfaint o adnoddau refeniw fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.
Roedd y Cyngor, fel rhan o strategaeth y gyllideb, wedi cynnal adolygiadau manwl o’i bolisi MRP yn 2016/17 a 2017/18 ac wedi diwygio’r polisi o ganlyniad.
Roedd angen gwneud newidiadau i’r polisi ar gyfer 2022/23 mewn cysylltiad â’r MRP ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Nid oedd angen newidiadau i’r polisi ar gyfer MRP Cronfa’r Cyngor.
Byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried yn y Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y canlynol yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled Cronfa'r Cyngor heb ei thalu:
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2022/23 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca cefnogol o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2022/23 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan drefniadau benthyca (darbodus) nad yw wedi ei gefnogi neu drefniadau credyd. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(b) Bod y canlynol yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2021. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2022/23 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan ddyled o 1 Ebrill 2021 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(b) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir, bod Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i adeiladu tai fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf mewn telerau cyfrifeg) fel a ganlyn:
· Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod ... view the full Cofnodion text for item 110