Mater - cyfarfodydd

Temporary Accommodation Homelessness Audit 2021 Findings Report

Cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 45)

45 Adroddiad Canfyddiadau Archwiliad Digartrefedd Llety Dros Dro 2021 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas         Rhannu canfyddiadau'r archwiliad diweddar o Lety Dros Dro sy’n ffurfio rhan o swyddogaeth Ddigartrefedd y Cyngor ynghyd â’rymateb rheolia’r cynllun gweithredu ar gyfer gwella gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Tai ac Atal adroddiad i gadarnhau canlyniad Archwiliad diweddar o reoli llety dros dro yn Sir y Fflint.  Roedd yr archwiliad wedi tynnu sylw at nifer o feysydd i'w gwella a chafodd ei gategoreiddio fel Adroddiad Archwilio Coch.

 

            Nododd y Rheolwr Gwasanaeth nifer o feysydd i'w gwella a'r heriau gweithredol sy'n gysylltiedig â rheoli'r portffolio Llety Dros Dro. Gofynnodd am archwiliad i asesu'r gwasanaeth cyn canolbwyntio ar gynlluniau twf gwasanaethau.  Roedd yr archwiliad yn gyfle amhrisiadwy i gael asesiad annibynnol o'r gwasanaeth a chyfle i nodi meysydd ffocws ar gyfer gwella gwasanaethau.

 

            Byddai Cynllun Gwella Gwasanaethau manwl i ategu'r Ymateb i’r Archwiliad a mynd i'r afael â'r holl gamau gweithredu angenrheidiol i gyflawni argymhellion yr Archwiliad yn golygu y byddai ffocws cryfach ar egwyddorion craidd rheoli tai yr oedd eu hangen i drawsnewid y gwasanaeth a chynnig sicrwydd ei fod yn cael ei redeg yn effeithiol.  

 

            Diolchodd y Cadeirydd i'r Uwch Reolwr Tai ac Atal am yr adroddiad manwl a chroesawodd y Cynllun Gwella Gwasanaethau. 

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Helen Brown y dylid ychwanegu argymhelliad ychwanegol at yr hyn a ddangosir yn yr adroddiad, bod y Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru pellach maes o law ac y dylid ychwanegu hyn at Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor.  Gofynnodd hefyd a ddylid sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen o blith Aelodau'r Pwyllgor a chynrychiolydd o'r Cymdeithasau Tenantiaid i adolygu cynnydd y Cynllun Gwella.  Eglurodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu na fyddai'n briodol sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar hyn o bryd oherwydd yr Etholiadau Llywodraeth Leol a gynhelir ym mis Mai 2022.  Pe bai'r Pwyllgor yn cefnogi'r awgrym ei fod yn derbyn adroddiad diweddaru yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gallai'r Pwyllgor ystyried bryd hynny a oedd angen sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen o hyd.  Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Tai ac Atal hefyd y byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys diweddariadau ar gynnwys defnyddwyr gwasanaeth. 

 

            Mynegodd y Cynghorydd Kevin Rush bryder ynghylch y diffyg cymorth TG a gofynnodd am y wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr eiddo Gwag ledled Sir y Fflint.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Atal fod sicrwydd wedi'i roi y byddai capasiti o fewn y gwasanaeth TG i ddarparu'r cymorth angenrheidiol wrth symud ymlaen.  Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod 217 o eiddo Gwag ar draws Sir y Fflint ar hyn o bryd.  Roedd y rhain yn parhau i gael eu monitro'n rheolaidd ac esboniodd fod llawer iawn o wybodaeth yn cael ei darparu ynghylch pam fod yr eiddo'n Wag.  

 

Cafodd yr argymhelliad fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ynghyd â'r awgrym y dylai'r Pwyllgor dderbyn adroddiad diweddaru maes o law, ei gynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a'i eilio gan y Cynghorydd Kevin Rush. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r Cynllun Gwella Llety Dros Dro, fel sydd wedi'i atodi yn Atodiad 2 yr adroddiad; a         

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad diweddaru maes o law ar y cynnydd sy'n cael ei wneud i gwblhau'r Cynllun Gwella Llety Dros Dro.