Mater - cyfarfodydd
Pay Policy Statement for 2022/23
Cyfarfod: 24/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 109)
109 Datganiad Polisiau Tal ar gyfer 2022/23 PDF 90 KB
Pwrpas: Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r nawfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Pay Policy Statement for 2022/23, eitem 109 PDF 942 KB
- Enc. 2 for Pay Policy Statement for 2022/23, eitem 109 PDF 210 KB
- Enc. 3 for Pay Policy Statement for 2022/23, eitem 109 PDF 95 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Datganiad Polisiau Tal ar gyfer 2022/23
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, adroddodd y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) mai dyma’r 10fed Datganiad Polisi Tâl Blynyddol, gan fyfyrio ar y trefniadau presennol o ran tâl. Rhoddwyd gwybodaeth am y polisïau ar gyfer 2021/22 mewn nifer o feysydd allweddol, a oedd yn debyg i’r adroddiadau blynyddol blaenorol. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r egwyddorion ond yn lle’r canllawiau a’r newidiadau diweddaraf i ddeddfwriaeth LlC, roedd sawl adran wedi cael eu hychwanegu, eu diweddau neu eu tynnu, ac amlinellwyd y rhain.
Cynigiodd y Cynghorydd Clive Carver yr argymhellion, a eiliwyd gan y Cynghorydd Geoff Collet.
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r Cyngor Sir yn cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl drafft atodol ar gyfer 2022/23; ac
(b) Y byddai’r Cyngor Sir yn dirprwyo awdurdod i'r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol, ddiweddaru Datganiad Polisi Tâl 2022/23 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol, fel ei fod yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.