Mater - cyfarfodydd
Council Tax setting for 2022/23
Cyfarfod: 15/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 91)
91 Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 PDF 99 KB
Pwrpas: Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2022-23 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - contains all resolutions and decisions needed to set the 2022/23 Council Tax, eitem 91 PDF 108 KB
- Appendix 2 - provides statistical informatin of the 2022/23 Council Tax charges by Town and Community Council area, eitem 91 PDF 69 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw yr adroddiad i osod taliadau Treth Cyngor yn ffurfiol a phenderfyniadau statudol cysylltiedig ar gyfer 2022/23 fel rhan o'r strategaeth gyllideb ehangach ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol. Gofynnwyd i Aelodau gymeradwyo parhad y cynllun Premiwm Treth Cyngor a'r arfer i swyddogion dynodedig arwain ar achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.
Fel y crybwyllwyd yn yr eitem flaenorol, mae tri phraesept ar wahân yn pennu lefel gyffredinol taliadau’r Dreth Gyngor yn erbyn pob eiddo. Roedd y cynnydd o 3.95% yn elfen y Cyngor yn bodloni disgwyliadau fforddiadwyedd a byddai, ynghyd â chyllid y llywodraeth ganolog a Grant Cymorth Refeniw, yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a chynnal lefel a chymhlethdod y galw am wasanaethau. Roedd y swm cyffredinol a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir sef £94,503,918; cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sef £20,653,459; a'r praesept cyfunol sef £3,195,763 ar draws 34 Cyngor Tref a Chymuned.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am gyngor gan y Prif Swyddog (Llywodraethu). Cyfeiriodd at yr Aelodau a oedd wedi pleidleisio yn erbyn y cynnydd yn nhreth y Cyngor fel rhan o'r argymhellion yn yr eitem flaenorol a gofynnodd a fyddai eu pleidlais yn cario drosodd ar gyfer yr eitem hon. Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai Aelodau gadw eu pleidlais, ac felly os oedd Aelod wedi pleidleisio o blaid y cynnig yn yr eitem flaenorol, fe fydden nhw'n pleidleisio yn erbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.
Nododd y Cynghorydd Marion Bateman ei bod am newid ei phleidlais ac felly y byddai nawr yn pleidleisio dros y cynnig.
Ar ôl cael eu cynnig a’u heilio, cynhaliwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion eu pasio.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Treth Cyngor 2022-23 yn cael ei gosod fel y manylir yn Atodiad 1 i'r adroddiad;
(b) Bod parhau â'r polisi o beidio â darparu gostyngiad yn lefel taliadau Tâl Treth Cyngor 2022/23 ar gyfer ail gartrefi a thai gwag hirdymor yn cael ei gymeradwyo. Hefyd, lle nad yw eithriadau yn berthnasol, i godi cyfradd Premiwm Treth Cyngor sef 50% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau sy'n wag yn yr hir dymor; a
(c) Rhoi cymeradwyaeth i swyddogion dynodedig gyflwyno achosion cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn y Llys Ynadon am drethi sydd heb eu talu.