Mater - cyfarfodydd
Quarter 4 Treasury Management Update 2021/22
Cyfarfod: 14/03/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 60)
60 C4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2021/22 PDF 125 KB
Darparu diweddariad ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd Chwefror 2021.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Investment portfolio as at 28-02-22, eitem 60 PDF 26 KB
- Enc. 2 - Long-term borrowing portfolio as at 28-02-22, eitem 60 PDF 140 KB
- Enc. 3 - Short-term borrowing portfolio as at 28-02-22, eitem 60 PDF 14 KB
- Gweddarllediad ar gyfer C4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol ddiweddariad chwarterol ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Chwefror 2022. Adroddwyd ar sefyllfa’r Cyngor yngl?n â buddsoddiad a benthyca tymor hir a thymor byr, ynghyd â diweddariad ar gyd-destun economaidd a’r rhagolygon cyfraddau llog.
Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod y dull benthyca tymor byr yn parhau, yn unol â chyngor proffesiynol, ac nad oedd rhagor o fenthyg tymor hir wedi’i ragweld yn y flwyddyn ariannol hon, yn seiliedig ar y llif arian presennol.
Gofynnodd Sally Ellis am unrhyw effaith a ragwelir ar y Strategaeth sy’n deillio o’r sefyllfa yn Wcráin. Er bod yr adroddiad yn adlewyrchu’r sefyllfa ar yr adeg honno, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys yn monitro ac yn diweddaru’r tîm o ran unrhyw newidiadau.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Allan Rainford a Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi diweddariad chwarter Rheoli Trysorlys 2021/22.