Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 10)
Cyfarfod: 15/03/2022 - Cabinet (eitem 129)
129 Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 10) PDF 196 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 10), eitem 129 PDF 105 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 10), eitem 129 PDF 148 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 10), eitem 129 PDF 23 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 10), eitem 129 PDF 219 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 10), eitem 129 PDF 95 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 10)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, ar Mis 10.
Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:
Cronfa’r Cyngor
- Roedd y diffyg gweithredol o (£4.604m) a oedd yn symudiad ffafriol o (£3.067m) o’r ffigwr diffyg (£1.537m) a adroddwyd ym Mis 9.
- Roedd balans y gronfa wrth gefn a rhagwelwyd ar 31 Mawrth 2022 yn £5.973m (ar ôl ystyried dyfarniad tâl NJC 2021/22 a’r cyfraniad cynyddol y Cronfa Wrth Gefn mewn Argyfwng a gytunwyd fel rhan o Gyllideb 2022/23).
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.382m yn uwch na’r gyllideb.
· Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £4.035 miliwn.
Roedd y symudiad sylweddol ym Mis 10 o ganlyniad i gyllid Gofal Cymdeithasol ychwanegol ar gyfer pwysau’r Gaeaf, a gadarnhawyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol gan Lywodraeth Cymru o £2.167m, ynghyd â meini prawf cyllid grant ychwanegol yn cael ei ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru o fewn Gwasanaethau Plant o £0.292m.
Roedd adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gafodd eu cyflawni; cyllid mewn argyfwng; cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a oedd unrhyw gostau yn gysylltiedig gyda difrod a gwaith clirio dilynol ar ôl y stormydd diweddar yn hysbys. Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y difrod wedi bod mor sylweddol a ofnwyd, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) eu bod dal i edrych ar y costau.
Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Weithredwr bod ynni wedi’i brynu ymlaen llaw gyda chytundeb nwy yn rhedeg allan ym mis Ebrill 2023, a chytundeb trydan yn rhedeg allan ym mis Hydref 2022.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22; a
(b) Chymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.